Newyddion S4C

Y chwilio’n parhau am Jay Slater sydd ar goll ar ynys Tenerife

Jay

Mae’r chwilio am ddyn ifanc o Brydain aeth ar goll ar ôl noson allan yn Tenerife yn parhau am y chweched diwrnod.

Roedd Jay Slater, 19 oed o Oswaldtwistle yn Sir Gaerhirfryn, wedi teithio i’r ynys ar gyfer gŵyl gerddoriaeth ac ar ei wyliau cyntaf heb ei rieni.

Nid oes unrhyw un wedi clywed gan y llanc ers iddo ffonio ffrind toc cyn 09:00  ddydd Llun, yn dweud ei fod ar goll a bod angen dŵr arno.

Dywedodd heddlu Sir Gaerhirfryn ddydd Gwener eu bod wedi cynnig cefnogi swyddogion ar yr ynys Ddedwydd yn eu hymdrechion i ddod o hyd i Mr Slater - ond ychwanegodd fod awdurdodau Tenerife yn "fodlon bod ganddyn nhw'r adnoddau sydd eu hangen arnyn nhw".

Fe welwyd Mr Slater ddiwethaf ar lwybr ar dir mynyddig ym mharc cenedlaethol Rural de Teno.

Mae ffrindiau a theulu Mr Slater wedi dweud ei fod wedi gadael y grŵp y bu'n teithio gyda nhw yn gynharach yn nhref Playa de las Americas yn ne’r ynys.

Ar ôl gadael gŵyl gerddoriaeth NRG yng nghlwb nos Papagayo, aeth i mewn i gar gyda dau ddyn roedd wedi eu cyfarfod i yrru i'r parc cenedlaethol yng ngogledd-orllewin Tenerife.

Ddydd Gwener, roedd timau achub yn chwilio ffordd fynydd ac yn canolbwyntio ar geunant - cyn symud i gwm ym mhentref Masca.

Mae timau cŵn wedi bod yn chwilio ardal ger adeiladau fferm a thimau achub mynydd yn archwilio darn serth o dir y tu ôl i’r fflat yr oedd Mr Slater wedi cael ei yrru iddo.

Mae’r heddlu wedi bod yn mynd â bagiau o sbwriel o'r ardal i geisio dod o hyd i unrhyw gliwiau, ond nid oes unrhyw wybodaeth ychwanegol hyd yn hyn.

Dywedodd perchennog y fflat wrth ohebwyr iddi weld Mr Slater yn cerdded i fyny'r ffordd heibio ei chartref ond na welodd ef eto ar ôl hynny.

Llun: PA

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.