Digwyddiad yn Eryri i goffáu chwarelwyr a galw am warchod enwau lleol
Fe fydd digwyddiad yn cael ei gynnal yn Eryri ddydd Sul i goffáu chwarelwyr yr ardal a gwrthwynebu colli enwau Cymraeg ar leoliadau chwarelyddol y fro.
Mae'r digwyddiad, sydd wedi cael ei drefnu gan grŵp Facebook o'r enw Eryri Wen, yn cael ei gynnal wrth y cleddyf yn Llanberis am 15:00 ddydd Sul.
Bwriad y digwyddiad yw coffau aelodau Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru yn ogystal â galw am warchod enwau Cymraeg chwarel Dinorwig sydd wedi’u disodli gan enwau Saesneg fel ‘Mordor’ a ‘Dali’s Hole’.
Bydd y trefnwyr hefyd yn galw ar ddringwyr i barchu'r chwarelwyr, gyda nifer ohonynt wedi colli eu bywydau yn y chwareli neu o ganlyniad i'r haint silicosis.
Bydd Côr Meibion y Penrhyn yn canu rhai o emynau'r chwarelwyr yn y digwyddiad a fydd yn nodi 150 mlynedd ers sefydlu Undeb Chwarelwyr Gogledd Cymru.
Cafodd yr undeb ei sefydlu yn 1874 mewn ymateb i anfodlonrwydd ymysg y chwarelwyr, yn enwedig gweithwyr Chwarel y Penrhyn a Chwarel Dinorwig.
'Lle ein hynafiaid'
Dywedodd sefydlydd y grŵp, Eilian Williams: “Mae’r enwau newydd sydd wedi eu rhoi gan y dringwyr dros 40 mlynedd yn cael eu hystyried gan y rhan fwyaf o bobl yn amharchus – yn aml yn cymryd enwau o ffilmiau ffantasi.
“Dim ond yn y ddwy flynedd diwethaf yr ydym wedi dod yn ymwybodol o hyn gan eu bod wedi’u cyfyngu i ganllawiau dringo a gwefannau, ac yn ddiweddar mae nifer y gwefannau hyn wedi cynyddu.
“Maen nhw'n dweud nad oedd yr amarch hwn yn fwriadol ond yn ganlyniad i fewnfudwyr yn peidio â chymysgu â thrigolion yr ardal, gan ffurfio eu grwpiau cymdeithasol mynydda Saesneg eu hunain.”
Yn ôl Mr Williams, mae rhai wedi awgrymu y dylid cydnabod y ddau set o enwau ond mae grŵp Eryri Wen yn “gwrthod hynny’n llwyr”.
“Y chwarel hon yw lle ein hynafiaid a’n hanes ers dros ddwy ganrif, a’r tir am filoedd o flynyddoedd,” meddai.
“Cawsom gynnig tirlunio’r chwarel ond nid oeddem yn teimlo bod hyn yn briodol gan ei fod yn sefyll fel cofeb i lafur ac aberth ein teuluoedd.
“Fe wnaeth y penderfyniad hwn arwain at ddringwyr yn symud i mewn i'w ddefnyddio ar gyfer gweithgaredd hamdden. Y peth lleiaf y gallen nhw fod wedi ei wneud byddai dysgu ein hiaith a dysgu enwau'r orielau.”
Ychwanegodd y bydd y grŵp yn rhoi pwysau ar Gyngor Gwynedd a bwrdd UNESCO i weithredu.