Newyddion S4C

Cwynion lleol am sŵn yng nghanol nos gan gerddwyr i'r Wyddfa

21/06/2024

Cwynion lleol am sŵn yng nghanol nos gan gerddwyr i'r Wyddfa

Dyma un o strydoedd Llanberis.

"Mae hwn 1:30 bore dydd Sul, bythefnos yn ôl.

"Grŵp o 200 yn mynd i fyny'r Wyddfa efo goleuadau a twrw.

"Doedd dim ots gynnon nhw, yn gweiddi ar ben eu lleisiau a cadw pawb yn effro.

"Dim jyst y grŵp yma oedd o.

"Mae 'na rai eraill bob tro."

Mae Christine Patton wedi byw ar Res Fictoria ers tair blynedd.

Mae'n stryd sy'n enwog fel man cychwyn un o brif lwybrau'r Wyddfa.

Wrth i boblogrwydd y llwybr gynyddu, yn enwedig yn ystod y nos mae rhai o drigolion yr ardal wedi cael digon.

"Pan wnes i symud yma i ddechre, oedd 'na dwrw gyda'r nos.

"Twrw yn y dydd ond oedd o'n bearable.

"Ond rŵan mae hi 'di mynd yn rhemp.

"Mae o'n ormod, maen nhw'n dod o bobman i ddringo a gweld yr haul yn codi.

"Dydyn nhw'm yn meddwl am bobl sy'n byw ar y stryd yma.

"Dw i'n lwcus os ga i ddwy, tair awr o gwsg."

Nid Christine yw'r unig un sy'n poeni am y cynnydd mewn ymwelwyr.

Mae Mona Hellfeld wedi byw ar y stryd ers dros 40 mlynedd.

"Dw i 'di cael fy ngeni yn Llanber.

"Y thought bod rhaid symud o 'ma, am bod fi methu cael noson o gwsg...

"dw i'n meddwl mai'r ffordd orau ydy gofyn yn neis i'r Cyngor a'r Parc Cenedlaethol, fedrwch chi plis helpu ni?

"Mae o 'di bod yn ofnadwy."

Tra bod nhw'n croesawu ymwelwyr dywedodd Cyngor Gwynedd eu bod nhw'n annog pobl i drin pobl leol a'u cymunedau gyda pharch.

Dywedon nhw eu bod nhw'n gweithio gyda phartneriaid a'r diwydiant i sicrhau bod pobl yn gallu mwynhau yn ddiogel.

Dywedodd y Parc Cenedlaethol eu bod nhw'n ymwybodol o'r sefyllfa a'u bod wedi ymrwymo i ddatrys y broblem.

Mae 'na chwech llwybr swyddogol i gopa'r Wyddfa a'r llwybr yma yw'r un mwyaf poblogaidd o bell ffordd.

Yn 2022 cerddodd dros 230,000 o bobl ar hyd y llwybr hwn dros ddwywaith yn fwy na'r llwybr prysuraf nesa.

Mae'n Hirddydd Haf heddiw ac mi fydd cerddwyr yn gobeithio dringo'r Wyddfa cyn i'r haul fachlud.

Sawl un fydd yn gadael ei hôl?

Dim un yw gobaith trigolion Rhes Fictoria.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.