Newyddion S4C

Plentyn pedair oed wedi marw yng Ngheredigion

21/06/2024
Tregaron

Mae plentyn pedair oed wedi marw yng Ngheredigion, meddai'r heddlu.

Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys eu bod nhw cael eu galw i adeilad yn ardal Tregaron ddydd Iau.

"Roedd Heddlu Dyfed-Powys yn bresennol wedi marwolaeth plentyn pedair oed mewn eiddo yn ardal Tregaron ddydd Iau, 20 Mehefin 2024," medden nhw.

"Nid yw'r farwolaeth yn cael ei thrin fel un amheus ac mae'r crwner wedi cael gwybod.

"Mae ein meddyliau gyda’r teulu sy’n derbyn cefnogaeth ac maen nhw wedi gofyn am breifatrwydd yn ystod y cyfnod anodd hwn.”

Does dim rhagor o fanylion wedi eu cyhoeddi gan y gwasanaethau brys ar hyn o bryd.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.