Newyddion S4C

Carcharu dyn a ddefnyddiodd Snapchat i gam-drin plentyn

21/06/2024
Patryk Kantor

Mae dyn 25 oed wedi cael ei garcharu am bum mlynedd am droseddau yn ymwneud â meithrin perthynas amhriodol â phlentyn ar-lein.

Ymddangosodd Patryk Kantor yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Gwener er mwyn cael ei ddedfrydu.

Roedd eisoes wedi pledio yn euog i ddau gyhuddiad o weithgaredd rhywiol gyda phlentyn, annog plentyn i gymryd rhan mewn gweithgaredd rhywiol, yn ogystal â chwrdd â phlentyn ar ôl meithrin perthynas amhriodol.

Clywodd y llys bod Kantor wedi gyrru 120 o filltiroedd o'i gartref yn Coventry i gyfarfod merch ysgol yng Nghaerdydd cyn mynd a hi i aros mewn llety AirBnB.

Yn ystod ei sgyrsiau ar yr ap Snapchat, roedd wedi cymryd arno ei fod yn 17 oed ond mewn gwirionedd roedd yn 25 oed.
 
Fe wnaeth mam y ferch gysylltu â'r heddlu yn dilyn pryderon am rai o'i sylwadau.
 
Cafodd Kantor ei arestio deuddydd yn ddiweddarach ar 28 Mawrth.
 
Diogelwch ar-lein
 
Dywedodd y Ditectif Gwnstabl Anna Chad Nixon o Heddlu De Cymru: “Hoffwn ganmol mam y ferch a weithredodd ar ei hamheuon gan gysylltu â'r heddlu.
 
“Dylai’r achos hwn, ac eraill fel yr un hwn, atgoffa pawb bod ysglyfaethwyr ar-lein sy’n targedu plant.
 
“Mae ymwybyddiaeth o ddiogelwch ar-lein mor bwysig, ac mae gan bawb ran i’w chwarae.”
 
Ychwanegodd: “Os oes unrhyw un yn amau ​​​​bod rhywun yn cael ei feithrin, yna rhowch wybod ar unwaith.”


 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.