Heddlu'n ymchwilio i farwolaeth dynes 33 oed yn Abersoch
21/06/2024
Mae Heddlu'r Gogledd yn ymchwilio ar ôl i ddynes farw ym Mhen Llŷn ddydd Iau.
Bu farw dynes 33 oed ym mhentref Abersoch ger Pwllheli nos Iau.
Mae'r heddlu ar ddeall bod y ddynes wedi mynd i mewn i'r môr gyda'i dillad ymlaen y noson honno.
Maen nhw'n apelio ar unrhyw un allai fod wedi gweld y ddynes, neu unrhyw un sydd â gwybodaeth allai fod o gymorth, i gysylltu â nhw.
Dylai unrhyw un sy'n cysylltu ddefnyddio'r cyfeirnod Q089372.