Cerddorion Opera Cenedlaethol Cymru i bleidleisio ar streic dros gyflogau
Bydd aelodau o Opera Cenedlaethol Cymru yn pleidleisio ar gynnig i streicio yn sgil anghydfod dros gyflogau ac amodau gweithio.
Mae disgwyl i'r rhai sy'n perthyn i Undeb y Cerddorion bleidleisio ar y cynnig yn yr wythnosau nesaf.
Daw'r cynnig yn dilyn honiadau bod cynlluniau i wneud y gerddorfa’n rhan amser, yn ogystal â thorri cyflogau cerddorion 15%.
Dywedodd yr undeb fod toriadau ariannol gan Gyngor Celfyddydau Cymru a Chyngor Celfyddydau Lloegr wedi gorfodi rheolwyr Opera Cenedlaethol Cymru i ystyried y newidiadau.
Bydd yn rhaid i Opera Cenedlaethol Cymru hefyd lleihau'r nifer o berfformiadau mewn mannau eraill o ganlyniad i'r toriadau ariannol.
Byddai newidiadau o'r fath yn peryglu dyfodol opera o safon uchel mewn trefi a dinasoedd fel Llandudno a Bryste, meddai'r undeb.
Mae Opera Cenedlaethol Cymru eisoes wedi canslo perfformiadau yn Llandudno a Chaerdydd yn 2025 oherwydd "heriau ariannol cynyddol".
'Pryderus'
Dywedodd ysgrifennydd cyffredinol yr undeb, Naomi Pohl: “Mae hwn yn gyfnod tyngedfennol i Opera Cenedlaethol Cymru wrth iddo wynebu toriadau ariannol gan Gyngor Celfyddydau Lloegr a Chyngor Celfyddydau Cymru.
“Rydym hefyd yn bryderus iawn am y gostyngiad yn y ddarpariaeth opera ledled y DU. Bydd hyn yn taro galetaf mewn ardaloedd sydd eisoes â llai o ddarpariaeth celfyddydau a cherddoriaeth, ac yn lleihau’n aruthrol y cyfleoedd i gerddorion ennill bywoliaeth.
“Rydym yn benderfynol o gefnogi ein haelodau i herio cynlluniau ar gyfer toriadau cyflog anghynaladwy i’n haelodau a newidiadau a allai achosi niwed mawr i gelfyddydau a cherddoriaeth yng Nghymru.”
Ychwanegodd: “Yn y cyfamser byddwn yn codi’r mater gyda’r Llywodraeth, ASau cefnogol a chynghorau’r celfyddydau.
“Gydag Etholiad Cyffredinol ar y gorwel, mae’n foment dyngedfennol mewn amser i wneud ein hachos dros y buddsoddiad diwylliannol y mae dirfawr ei angen ar ein sefydliadau celfyddydol.”