Newyddion S4C

Gweithwyr Unite yn Tata Steel yn cyhoeddi 'y streic gyntaf ers 40 mlynedd'

21/06/2024
Tata Steel Port Talbot

Bydd aelodau undeb Unite yn Tata yn cynnal streic benagored o 8 Gorffennaf.

Mae'r gweithwyr yn protestio yn erbyn cynlluniau’r cwmni i gau ffwrneisi chwyth ar eu safle ym Mhort Talbot, a fydd yn arwain at golli miloedd o swyddi.

Dyma fydd y streic gyntaf gan weithwyr dur Tata "ers 40 mlynedd," meddai'r undeb, a bydd y streic yn parhau nes bod Tata yn ailfeddwl.

Mae Tata yn dweud eu bod yn symud i ffurf mwy amgylcheddol o gynhyrchu dur, a'u bod nhw'n colli £1m bob dydd ym Mhort Talbot.

Dywedodd ysgrifennydd cyffredinol Unite, Sharon Graham: “Nid brwydro am eu swyddi yn unig y mae gweithwyr Tata – maen nhw’n ymladd dros ddyfodol eu cymunedau a dyfodol dur yng Nghymru.

“Ni fydd ein haelodau yn sefyll i'r naill ochr tra bod y cwmni hynod gyfoethog hwn yn ceisio taflu Port Talbot a Llanwern ar y domen sgrap er budd ei weithrediadau dramor. 

"Maen nhw'n gwybod bod de Cymru mewn sefyllfa ddelfrydol i fanteisio ar gyfleoedd dur gwyrdd - os ydyn nhw'n gwneud y dewisiadau cywir.

“Bydd y streiciau’n parhau nes bydd Tata’n atal ei gynlluniau trychinebus. Mae Unite yn cefnogi gweithwyr Tata yn eu brwydr hanesyddol i achub diwydiant dur Cymru a rhoi’r dyfodol disglair iddo y mae’n ei haeddu.”

Mae gan Community ac undeb y GMB aelodau yn Tata hefyd, ond nid ydynt ar hyn o bryd wedi cyhoeddi unrhyw weithredu diwydiannol.

Rhagor i ddilyn...

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.