Newyddion S4C

Michael Sheen wedi bod yn 'allweddol' i ymchwiliad i gemegau peryglus

24/06/2024
Buried

Mae’r actor Michael Sheen wedi chwarae rhan “allweddol” mewn ymchwiliad gan dîm o newyddiadurwyr sydd wedi dod o hyd i “lefelau peryglus” o gemegau yng Nghymru. 

Yn wyneb cyfarwydd ym myd Hollywood, mae’r Cymro bellach wedi bod yn rhan o dîm o newyddiadurwyr y tu ôl i ail gyfres y podlediad ymchwiliadol gan BBC Radio 4, ‘Buried.’

Mae ‘Buried: The Last Witness’, sy’n cael ei gyflwyno gan y newyddiadurwyr Dan Ashby a Lucy Taylor, yn ymchwilio i’r effaith y mae cemegolion PCB yn cael ar ein hiechyd a'r amgylchedd.

Roedd y cemegau yn cael eu defnyddio’n aml mewn meysydd diwydiannol hyd nes iddyn nhw gael eu gwahardd yn y DU yn 1981. Roedd hyn o achos y gallai ychydig “bach iawn, iawn” o’r cemegau fod yn “hynod o wenwynig” i bobl, meddai Dan Ashby.

Ond mae’r cemegau yn parhau yn yr amgylchedd am ddegau, os nad cannoedd o flynyddoedd – ac maen nhw bellach wedi eu darganfod mewn ardaloedd ar hyd a lled de Cymru. 

Pam Michael Sheen?

Roedd yr actor Michael Sheen yn “hollbwysig” i’r ymchwiliad, esboniodd Dan Ashby, ag yntau wedi cyfweld ag un o brif ffynonellau’r podlediad cyn iddo farw.

Fe ymwelodd Douglas Gowan â Chwarel Brofiscin ger Llantrisant yn Rhondda Cynon Taf am y tro cyntaf yn 1967. Yno fe wnaeth o ddarganfod fod cwmni Americanaidd Monsanto wedi bod yn cael gwared â chemegau ers tro – a hynny wedi achosi sawl marwolaeth i dda byw cyfagos.

Doedd Doulas Gowan erioed wedi’i gymryd o ddifrif, ond mewn araith er cof am y gwleidydd a'r academydd Raymond Williams yn Llundain yn 2017, fe wnaeth Michael Sheen roi sylw cyhoeddus i’w waith ymchwil.

Image
Douglas Gowan
Douglas Gowan, 2017 (Llun: Michael Sheen)

Fe gysylltodd tîm podlediad ‘Buried’ ag asiant Sheen yn y gobaith o gydweithio ac mae o wedi bod ar y “daith yma efo ni ers hynny,” meddai Mr Ashby.

“Roedd e’n swreal achos ‘nathon ni sylweddoli yn gyflym iawn fod Michael yn ffynhonnell wybodaeth bwysig, bwysig iawn." 

Ychwanegodd: “Mae Radio 4 yn wasanaeth cenedlaethol, felly roedd rhaid i ni ystyried arwyddocâd cenedlaethol y stori hon. 

“Ond mae yna ffordd hollol wahanol o edrych ar y stori hon; o safbwynt Cymreig – a dyna pam roedd gan Michael Sheen ddiddordeb.”

'Pryderus'

Fel rhan o’r gwaith ymchwil, fe wnaeth y newyddiadurwyr ymweld â sawl ardal ledled y DU er mwyn profi am gemegau PCBs, gan gydweithio gyda Chymdeithas Frenhinol Cemeg.

Roedd cwmnïau yn aml yn cael gwared â chemegau o’r math yma yn ne Cymru yn ystod 60au a 70au'r ganrif ddiwethaf gan fod yr ardal yn gysylltiedig â gwaith diwydiannol trwm, meddai Mr Ashby.

Mae'n dweud fod lefelau “sylweddol” o’r cemegau wedi eu canfod mewn ardaloedd oedd yn agored i’r cyhoedd yn y de, ac fe allai hynny fod yn beryglus o ran iechyd trigolion lleol.

Trwy gynnal profion ar ddraen ger ystâd dai a choedwig yn Ynysddu, ble mae plant yn chwarae yng Nghaerffili, roedd lefelau cemegau PCBs rhwng pedwar a 150 gwaith yn uwch na’r hyn sy’n arferol yn y DU. 

Mae Cyngor Caerffili eisoes yn ymwybodol o’r sefyllfa meddai Dan Ashby ac maen nhw wedi torri’r rheoliadau o ran PCBs “o leiaf unwaith.” 

Mae'n dweud bod Cyfoeth Naturiol Cymru bellach wedi ymyrryd gan brofi dŵr yr afon oherwydd eu bod “mor bryderus.”

Mewn ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Caerffili eu bod yn “hollol ymwybodol” o’r pryderon ynghylch cemegau peryglus – gan gyfeirio at hen Chwarel Tŷ Llwyd ger Afon Sirhowy yn Ynysddu. Maent yn dweud eu bod yn monitro’r lleoliad yno ac yn ystyried yr opsiynau i fynd i’r afael â’r cemegau. 

Dywedodd y llefarydd eu bod wedi cael rhybudd gan Cyfoeth Naturiol Cymru, ac fel rhan o hynny maen nhw eisoes wedi cyflwyno adroddiad gwerthuso opsiynau ac am gyflwyno cynllun gweithredu. 

“Yn anffodus, mae Cyngor Caerffili wedi etifeddu safle ble yr oedd gwastraff yn cael ei ollwng yn rheolaidd, ond rydym wedi ymrwymo i gydweithio gydag ein partneriaid a’r gymuned leol er mwyn gweithredu cyn gynted â phosib,” meddai.

Image
Cymdeithas Frenhinol Cemeg
Swyddog o Gymdeithas Frenhinol Cemeg yng Nghaerffili

Mae cemegau hefyd wedi eu canfod ar hyd ffordd gyhoeddus yn Rhondda Cynon Taf meddai Dan Ashby.

Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Rhondda Cynon Taf fod y cemegau rheiny’n gysylltiedig â Chwarel Maendy, oedd yn hefyd yn cael ei ddefnyddio fel safle i gael gwared a gwastraff cemegau gan gwmni Monsanto o’i safle yng Nghasnewydd.

“Mae Chwarel Maendy yn eiddo preifat a Cyfoeth Naturiol Cymru sydd yn gyfrifol am y safle dan y Gyfundrefn Trwyddedu Amgylcheddol.

“Oherwydd hynny, y perchennog sydd a’r rhan fwyaf o’r cyfrifoldeb, ond rydym yn cydnabod gallai defnydd blaenorol o’r tir gefnogi’r angen posib am ymchwiliad.

“Ar hyn o bryd rydym am barhau i gydweithio gyda pherchnogion y safle, sydd wedi cynnal ymchwiliadau er mwyn deall sut i fynd i’r afael â’r cemegau, yn ogystal â Cyfoeth Naturiol Cymru gan gydymffurfio â’r Drwydded Amgylcheddol ar gyfer y safle.” 

Dywedodd Dan Ashby: “Dyw pobl ddim wedi sylweddoli y peryg a’r raddfa sydd ynghlwm a’r broblem yma eto.” Ei obaith yw y bydd y podlediad yn cychwyn trafodaeth ynglŷn ag effaith cemegau PCBs. 

Image
Dan Ashby
Dan Ashby yng Nghymru

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.