Pwy yw'r ceffylau blaen i olynu Rob Page?
Yn dilyn canlyniadau siomedig mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi cyhoeddi eu bod wedi dod a chytundeb Rob Page fel rheolwr tîm pêl-droed Cymru i ben.
Collodd Cymru 4-0 yn erbyn Slofacia ac fe gafwyd gêm ddi-sgor yn erbyn Gibraltar yn eu gemau cyfeillgar diwethaf, wedi methiant yr ymgyrch i gyrraedd Euro 2024 yn yr Almaen.
Mae cytundeb Page yn dod i ben wedi tair blynedd a hanner - cyfnod pan arweiniodd Cymru i Gwpan y Byd am y tro cyntaf ers 1958.
Gyda'r chwilio am reolwr newydd yn dechrau, pwy fydd y nesaf wrth y llyw i Gymru?
Craig Bellamy
Un o'r ffefrynnau ar gyfer y swydd yw cyn-ymosodwr Cymru, Craig Bellamy.
Roedd Bellamy yn is-reolwr Burnley tan ddiwedd y tymor diwethaf, gyda'r clwb yn disgyn i'r Bencampwriaeth.
Bellach mae'n rheolwr dros dro ar Burnley wedi iddo beidio dilyn eu rheolwr blaenorol, Vincent Kompany i'r Almaen pan gafodd ei benodi'n rheolwr ar Bayern Munich.
Sgoriodd Bellamy 19 gôl mewn 78 ymddangosiad dros ei wlad gan gynnwys gôl mewn buddugoliaeth gofiadwy yn erbyn Yr Eidal yn 2002.
Ond nid oes ganddo lawer o brofiad hyfforddi. Ei swydd bresennol gyda Burnley, cyfnod fel rheolwr tîm dan 21 RSC Anderlecht yng Ngwlad Belg ac fel rheolwr tîm dan 18 Caerdydd yw ei unig brofiadau hyfforddi hyd yma.
Chris Coleman
Fe wnaeth Coleman arwain tîm pêl-droed Cymru at rowndiau terfynol pencampwriaeth ryngwladol am y tro cyntaf ers 58 mlynedd, pan lwyddodd y tîm i hawlio lle yn Euro 2016, gan gyrraedd y rownd gyn derfynol.
Ar hyn o bryd mae'n rheolwr ar glwb AEL Limassol yn Cyprus wedi iddo gael ei benodi ar 25 Mai eleni.
Cyprus yw’r pumed wlad i’r gŵr 54 oed hyfforddi ynddi, wedi iddo hefyd reoli clybiau yn Lloegr, Sbaen, Gwlad Groeg a Tsieina yn y gorffennol.
Ymddiswyddodd fel rheolwr Cymru wedi iddynt fethu â chyrraedd Cwpan y Byd 2018.
Osian Roberts
Enw cyfarwydd iawn i gefnogwyr Cymru yw Osian Roberts.
Roedd yn is-reolwr i Chris Coleman yn ystod ei gyfnod fel rheolwr Cymru a hefyd am gyfnod tra'r oedd Ryan Giggs wrth y llyw.
Fe arweiniodd Roberts clwb Como 1907 o Serie B i Serie A, prif gynghrair Yr Eidal, y tymor diwethaf.
Mae ei swyddi hyfforddi yn amrywio o arwain y New Mexico Chiles yn yr 1990au, i Borthmadog ac yna fel is-reolwr i Patrick Vieira gyda Crystal Palace.
Wedi i Coleman ymddiswyddo fel rheolwr Cymru yn 2017, roedd Osian Roberts wedi dangos diddordeb yn swydd gan ddweud ei fod eisiau bod yn rheolwr newydd ar Gymru.
Nid oes sicrwydd a fydd Roberts yn parhau fel rheolwr Como 1907 y tymor nesaf. Mae ganddo rôl fel pennaeth datblygiad chwaraewyr yn y clwb hefyd.
Mark Hughes
Cyn-reolwr arall i Gymru sydd wedi'i gysylltu gyda'r swydd yw Mark Hughes.
Roedd y dyn o Riwabon yn rheolwr Cymru rhwng 1999 a 2004, tra'r oedd yn parhau i chwarae i glybiau Southampton, Everton a Blackburn.
Roedd y swydd fod yn un dros dro i ddechrau gyda chymorth Neville Southall, ond fe ddaeth Hughes yn rheolwr parhaol wedi i Southall adael.

Euro 2004 oedd yr agosaf y daeth Hughes i gyrraedd prif gystadleuaeth â Chymru ond fe gollon nhw yn y gemau ail-gyfle yn erbyn Rwsia.
Yn ystod ei yrfa fel rheolwr mae Hughes wedi hyfforddi timau yn Uwch Gynghrair Lloegr gan gynnwys Manchester City, Stoke a Fulham.
Cafodd ei ddiswyddo gan Bradford ym mis Hydref 2023 gyda'r clwb yn safle 18 yn Adran Dau.
Tony Pulis
Dros gyfnod o 32 mlynedd mae Tony Pulis wedi bod yn rheolwr ar 11 clwb gwahanol.
Mae'r gŵr o Gasnewydd yn fwyaf adnabyddus am ei gyfnod fel rheolwr Stoke City yn Uwch Gynghrair Lloegr.
Yn ystod y cyfnod hwn fe arweiniodd y clwb i rownd derfynol Cwpan yr FA.
Nid yw Pulis wedi rheoli clwb ers iddo gael ei ddiswyddo gan Sheffield Wednesday yn 2020.
Enwau eraill
Mae Nathan Jones yn enw arall sydd wedi ei gysylltu â'r swydd.
Cafodd ei benodi'n rheolwr Charlton Athletic yn Adran Un yn dilyn cyfnod o dri mis fel rheolwr Southampton. Roedd yn rheolwr ar Luton Town a Stoke City cyn hynny.
Cyn-reolwr Manchester United sydd wedi cael ei grybwyll ar gyfer y swydd yw Ole Gunnar Solskjaer.
Roedd yn rheolwr y clwb rhwng 2018 a 2021 ac fe arweiniodd y clwb i rownd derfynol Cynghrair Europa yn 2021.
Mae eisoes yn gyfarwydd â Stadiwm Dinas Caerdydd yn dilyn cyfnod yn rheoli CPD Dinas Caerdydd yn 2014.
Roedd Ryan Giggs yn rheolwr Cymru am bedair blynedd rhwng 2018 a 2022.
Dechreuodd arwain yr ymgyrch lle llwyddodd Cymri i gyrraedd Euro 2020.
Cafodd Rob Page ei benodi'n rheolwr dros dro Cymru ym mis Tachwedd 2020, yn dilyn honiadau bod Giggs wedi ymosod ar ei gyn-gariad.
Ers hynny mae'r cyhuddiadau hynny yn ei erbyn wedi eu gollwng.
Prif lun: Asiantaeth Huw Evans