Newyddion S4C

Marwolaeth Porthcawl: Dyn o flaen llys ar gyhuddiad o ddynladdiad

02/07/2021
Porthcawl

Mae dyn 27 oed wedi ymddangos o flaen llys ddydd Gwener i wynebu cyhuddiad o  ddynladdiad ym Mhorthcawl.

Bu farw Carl Chinnock, 50, ddeuddydd ar ôl iddo gael ei gludo i'r ysbyty gydag anafiadau difrofol i'w ben. 

Cafwyd hyd iddo mewn maes parcio ym Mhorthcawl ar 23 Mehefin.

Fe ymddangosodd Christopher George, 27, o Ben-y-bont ar Ogwr o flaen Llys Ynadon Caerdydd ddydd Gwener i wynebu'r cyhuddiad yn ei erbyn.

Cafodd Mr George ei gadw yn y ddalfa ac fe fydd ei wrandawiad nesaf o flaen Llys y Goron ar 30 Gorffennaf.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.