Newyddion S4C

Rob Burrow wedi recordio 'negeseuon i'r dyfodol' i'w blant cyn marw

21/06/2024
Rob Burrow

Fe wnaeth Rob Burrow recordio cyfres o negeseuon i'w blant a fydd yn cael eu dangos ar achlysuron arbennig yn eu bywyd yn ôl ei wraig.

Bu farw'r cyn-chwaraewr rygbi'r gynghrair yn 41 oed ddechrau Mehefin, ar ôl byw gyda chyflwr Motor Niwron (MND) wedi iddo derbyn diagnsosis yn 37 oed. 

Wrth siarad â BBC Breakfast dywedodd ei wraig Lindsey Burrow nad oedd modd iddi "roi mewn geiriau" pa mor falch oedd hi o'i gŵr.

Ychwanegodd fod ei gŵr wedi gadael "gwaddol anhygoel" ac wedi "gwneud y byd yn well lle i fod".

Fe gafodd neges gyhoeddus olaf Rob Burrow ei chofnodi ar beiriant a oedd yn dilyn symudiadau ei lygaid a'i droi'n destun, ac fe gafodd ei gweld gan filiynau fel rhan o'r rhaglen ddogfen There's Only One Rob Burrow.

Dywedodd ei wraig fod Burrow wedi gadael negeseuon preifat ar gyfer ei deulu hefyd. 

"Dwi'n gwybod fod Rob wedi gadael negeseuon ar y peiriant ar gyfer y plant. Ar y funud, mae hi'n rhy gynnar i fynd drwy'r peiriant ond mae yna negeseuon penblwydd yna, negeseuon ar gyfer y dyfodol," meddai.

Ychwanegodd ei bod wedi derbyn negeseuon ar draws y byd yn rhoi teyrnged i'w gŵr.

Derbyniodd Burrow ddiagnosis o MND ddwy flynedd ar ôl iddo ymddeol o chwarae rygbi.

Enillodd wyth teitl Super League gyda chlwb Leeds Rhinos.

Derbyniodd CBE yn rhestr anrhydeddau'r flwyddyn newydd am ei wasanaethau i gyflwr motor niwron. 

Mae ei ffrind agos, Kevin Sinfield OBE, sydd yn adnabyddus am chwarae dros Leeds Rhinos ac yn ddiweddarach fel hyfforddwr i dîm rygbi’r undeb Lloegr, wedi llwyddo i godi miliynau o bunnoedd dros elusen MND Association dros y blynyddoedd.

Ei ysbrydoliaeth er mwyn gwneud hyn oedd cefnogi ei ffrind a chyn cyd-chwaraewr, meddai.

 


 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.