Newyddion S4C

Ymchwiliad wedi i ddyn 63 oed farw o anafiadau ar Ynys Enlli

21/06/2024
Ynys Enlli

Mae'r heddlu yn cynnal ymchwiliad wedi i ddyn 63 oed farw o anafiadau ar Ynys Enlli ddydd Mercher.

Dywedodd Heddlu Gogledd Cymru eu bod nhw wedi derbyn adroddiad cyn 17.00 ddydd Mercher am ddigwyddiad lle’r oedd dyn wedi dioddef anafiadau i’w frest ar yr ynys oddi ar arfordir Llŷn.

Bu farw'r dyn yn y fan a'r lle, medden nhw.

"Mae perthnasau agosaf y dyn wedi cael gwybod ac mae ymchwiliad i amgylchiadau’r farwolaeth yn cael ei gynnal ar hyn o bryd," medden nhw.

"Mae swyddogion ar hyn mewn cyswllt gyda'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch a'r Crwner fel rhan o'r ymchwiliad hwn."

'Diolch'

Mewn datganiad nos Iau, dywedodd Ymddiriedolaeth Enlli eu bod yn "cydymdeimlo'n ddiffuant â ffrindiau a theulu sydd wedi eu heffeithio."

Dywedodd swyddogion eu bod yn gweithio gyda thrigolion lleol a’r awdurdodau yn dilyn y farwolaeth. 

"Hoffai'r Ymddiriedolaeth ddiolch i bawb fu'n ymwneud â'r digwyddiad gan gynnwys Gwylwyr y Glannau, yr Ambiwlans Awyr, Criw'r Bad Achub a Heddlu Gogledd Cymru", meddai'r datganiad.

Dywedodd llefarydd ar ran yr RNLI bod bad achub o Abersoch wedi ei anfon i'r ynys am 20:25 nos Fercher i "gynorthwyo mewn ymateb aml-asiantaeth i ddigwyddiad."

Llun gan Hefin Owen (Comin Creadigol).

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.