Newyddion S4C

Rygbi: Sut mae Cymru'n cymharu gyda'r Springboks?

22/06/2024
De Affrica v Cymru (Huw Evans)

Bydd carfan di-brofiad Cymru yn wynebu tîm gorau’r byd yn Twickenham ddydd Sadwrn.

Bydd y cochion yn cynhesu i fyny ar gyfer eu taith i Awstralia fis Gorffennaf gyda gêm brawf yn erbyn pencampwyr y byd a’r tîm cartref swyddogol, De Affrica.

Dewi Lake fydd yn arwain y tîm yn erbyn y Springboks, sydd â phum chwaraewr a ddechreuodd yn rownd derfynol Cwpan y Byd y llynedd yn eu tîm.

Bydd Cymru heb y rhai sydd yn chwarae i dimau yn Lloegr, gan nad yw’r gêm yn cael ei chwarae o fewn y ffenestr ryngwladol ddynodedig.

Dafydd Jenkins, Tommy Reffell, Nick Tompkins, Dillon Lewis a Christ Tshiunza yw rhai o’r chwaraewyr blaenllaw sy'n methu allan o ganlyniad.

Felly sut mae tîm Cymru yn cymharu â’u gwrthwynebwyr?

Gyda rhai o chwaraewyr gorau’r byd yn eu carfan, megis Eben Etzebeth, Malcolm Marx, Pieter-Steph du Toit, Faf de Klerk a Makazole Mapimpi, mae'r hyfforddwr Rassie Erasmus wedi penderfynu dewis tîm llawn profiad.

Mae’r chwaraewyr yn y XV cychwynnol wedi ennill 637 o gapiau rhyngddynt

I’r gwrthwyneb, mae 294 o gapiau gan XV cychwynnol Cymru, sef llai na hanner sydd gan y Springboks.

Mae gan bac Cymru 120 o gapiau rhyngddynt; un yn unig yn fwy na’r cawr yn ail reng De Affrica, Eben Etzebeth.

Ymhlith chwaraewyr Cymru, dim ond Liam Williams (89) sydd â dros 50 o gapiau.

Bydd un chwaraewr yn y XV cychwynnol i Gymru yn ennill ei gap cyntaf, gyda mewnwr Caerdydd, Ellis Bevan, yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf yn y crys rhif naw.

Ar y fainc, bydd James Ratti, Eddie James a Jacob Beetham hefyd yn gobeithio gwneud eu hymddangosiadau rhyngwladol cyntaf.

Yn 1998, pan oedd De Affrica yn bencampwyr y byd, fe wnaeth tîm di-brofiad o Gymru dderbyn crasfa o 96 bwynt i 13.

Er bod rhai o'r amgylchiadau yn debyg 26 mlynedd yn ddiweddarach, bydd cefnogwyr Cymru yn gobeithio am ganlyniad dra wahanol y tro hwn.

Bydd y gêm yn cychwyn am 14.00 ac yn cael ei ddangos yn fyw ar S4C.

Llun: Asiantaeth Huw Evans

 

 

 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.