Newyddion S4C

Yr heddlu'n ymchwilio i ymosodiad honedig mewn canolfan chwarae yng Nghaernarfon

20/06/2024
Yr Hwylfan

Mae'r heddlu wedi gwneud apêl am wybodaeth wedi ymosodiad honedig mewn canolfan chwarae yng Ngwynedd.

Fe ddigwyddodd yr ymosodiad honedig yn Yr Hwylfan yng Nghaernarfon ar 28 Mai am tua 13:30.

Mae'r llu yn awyddus i siarad ag un dyn yn benodol mewn cysylltiad â'r digwyddiad.

Mae'r heddlu wedi gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â nhw drwy ffonio 101, gan ddyfynnu’r rhif 24000479515.

Image
Hwylfan

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.