Newyddion S4C

Etholiad 2024: 'Teimlad o anobaith' ymhlith trigolion yng ngogledd Lloegr

20/06/2024

Etholiad 2024: 'Teimlad o anobaith' ymhlith trigolion yng ngogledd Lloegr

Nid gêm yn unig ydy gwleidyddiaeth, ac mewn ymgyrch etholiadol mae 'na ddadlau nôl a 'mlaen rhwng y pleidiau am gyfeiriad y wlad.

Sut felly mae'r chwaraewyr yn y clwb tenis yma yn bwriadu pleidleisio?

"I'll vote Labour because traditionally Labour represents the ordinary working people.

"It represents most people in society."

"I personally think I will go for Conservative again but it doesn't look that good at the moment, so let's see."

Am genedlaethau, roedd etholaethau fel Leigh a threfi eraill ôl-ddiwydiannol ar draws gogledd Lloegr yn gadarnle i'r Blaid Lafur ond fe newidiodd pethau'n llwyr yn yr etholiad cyffredinol diwethaf wrth i'r wal goch droi'n las.

Y Ceidwadwyr enillodd y sedd yn 2019 a hynny ar ôl 100 mlynedd o fod yn nwylo'r Blaid Lafur.

Bron i bum mlynedd yn ddiweddarach ac mae 'na lawer wedi newid yng ngwleidyddiaeth Prydain.

Dydy Boris Johnson bellach ddim wrth y llyw ac mae'r Prif Weinidog Rishi Sunak bellach yn wynebu brwydr enfawr i gadw grym.

"I don't think it'll go well for the Conservatives in this town again.

"And not many more towns."

"I think it could go closer than we think or the population thinks but I hope it goes the right way which is the red way."

"What are the main issues in Leigh at the moment?

"Homelessness. And a lot of drug activity.

"It's not their fault. The Council is not reacting.

"People come out of prison with nowhere to live."

"There's drugs everywhere, druggies everywhere and I just think that they should be doing better.

"But it's not the police's fault and it's not the NHS's fault.

"They're understaffed, underpayed, and no wonder people are leaving."

Bymtheg milltir sydd rhwng Leigh a thyrau uchel Manceinion ond mae'n teimlo llawer pellach na hynny.

Mae 'na heriau yma hefyd, fel "Yr argyfwng costau byw, cyflwr y gwasanaeth iechyd."

Mae Simon Chandler yn byw yma ers blynyddoedd.

"Ni fydd 'na fwy o arian ar gael ar ôl yr etholiad ac o ran Manceinion a dinasoedd eraill ar wahân i Lundain mae 'na anghydbwysedd.

"Dyna'r broblem fawr.

"Mae'n debyg y bydd 'na ddiffyg buddsoddiad cyhoeddus."

Mi oedd y llywodraeth bresennol wedi addo buddsoddi mewn ardaloedd yn yr ardal yma, be maen nhw'n alw'n 'levelling up'.

Ydy hynny wedi digwydd?

"Codi'r gwastad - wel, mae'n arwyddair yn sicr ond dw i'n bersonol ddim wedi credu ynddo.

"Dw i ddim yn nabod neb sy'n credu ynddo.

"Mae'n gimmick yn y bôn."

Yn wreiddiol o Ddolgellau, mae Iwan yn rhedeg caffi yma.

"Mae pethau'n dechrau gwella ond 'dan ni dal yn trio dal ein hunain fyny ers Covid.

"Tipyn o slog i fynd, mewn ffordd.

"Mae gynnon ni dipyn o waith i wneud."

Mae ganddo amheuon am arweinydd y Blaid Lafur, Syr Keir Starmer.

"Dw i'm yn meddwl fod o'n down with the kids.

"Dw i'm yn meddwl fod o'n gwybod be mae pobl ifanc yn stryglo efo."

Fel nifer o lefydd eraill ar draws y wlad mae 'na deimlad o anobaith ymysg nifer yma a dim llawer o gariad tuag at wleidyddion na'r etholiad.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.