Graham Coughlan yn gadael ei swydd fel rheolwr Casnewydd
Mae CPD Casnewydd wedi cadarnhau bod Graham Coughlan wedi gadael ei swydd fel rheolwr.
Cyhoeddodd y clwb sydd yn chwarae yn Adran Dau fod Coughlan wedi gadael ei swydd fore Iau, a hynny drwy gytundeb ar y cyd.
Mewn datganiad dywedodd cadeirydd y clwb, Huw Jenkins ei fod yn diolch i Mr Coughlan am ei waith dros yr 18 mis diwethaf.
"Mae gen i barch enfawr tuag at Graham ac roedd gwneud y penderfyniad hwn yn anodd iawn wrth ystyried yr holl waith caled mae wedi ei wneud i roi'r clwb mewn sefyllfa sefydlog dros yr 18 mis diwethaf.
"Dwi'n dymuno pob llwyddiant i Graham yn y dyfodol.
"Fodd bynnag, wrth symud ymlaen mae'n rhaid i'r clwb â'r garfan fynd i gyfeiriad gwahanol ac mae angen i mi lynnu at fy nghredoau fy hun a fydd, dros amser, yn dod â llwyddiant parhaus i Gasnewydd a gobeithio y bydd yn newid y clwb am flynyddoedd i ddod.”
Ychwanegodd y clwb y byddant yn rhoi diweddariad i gefnogwyr ar benodiad rheolwr newydd cyn i'r tymor ddechrau.
Cafodd Graham Coughlan ei benodi'n rheolwr CPD Casnewydd ym mis Hydref 2022.
Gorffennodd y clwb yn safle rhif 15 yn Adran Dau ar ddiwedd tymor 2022-2023, cyn gorffen yn safle rhif 18 y tymor canlynol.
Yn ystod ei gyfnod yn ne Cymru roedd Coughlan wedi arwain Casnewydd i bedwaredd rownd Cwpan yr FA, lle gollodd 4-2 yn erbyn Manchester United.
Llun: Asiantaeth Huw Evans