Heddlu'n ymchwilio wedi i ddyn farw mewn gwrthdrawiad yn Sir Gâr
20/06/2024
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn ymchwilio ar ôl i ddyn farw mewn gwrthdrawiad yn Sir Gâr ddydd Sul.
Cafodd gwasanaethau brys eu galw i Ffordd Yspitty ym mhentref Bynea ger Llanelli am tua 14.45 ddydd Sul ar ôl i feic modur melyn Daytona Triumph wrthdaro â'r ynys ganolog.
Bu farw gyrrwr y beic modur yn y fan a'r lle.
Mae teulu'r dyn wedi cael gwybod ac yn cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol.
Mae'r heddlu yn apelio ar unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad neu sydd â fideo dashcam i gysylltu â nhw.
Dylai unrhyw un sy'n cysylltu ddefnyddio'r cyfeirnod 24*533356.
Llun: Google Maps