Pêl-droed: Steve Cooper wedi ei benodi'n rheolwr ar Gaerlŷr
Mae Steve Cooper wedi ei benodi’n rheolwr ar glwb pêl-droed Caerlŷr.
Bydd y Cymro 44 oed yn cymryd yr awenau wrth i’r clwb baratoi i ddychwelyd i Uwch Gynghrair Lloegr, ar ôl ennill y Bencampwriaeth y tymor diwethaf.
Roedd adroddiadau yn y wasg Brydeinig yn gynharach yn y mis ei fod ar restr fer i olynu Rob Page petai hwnnw yn colli ei swydd yn rheolwr Cymru.
Mae Cooper, sy’n dod o Bontypridd, wedi bod allan o waith ers gadael Nottingham Forest fis Rhagfyr y llynedd.
Roedd y cyn chwaraewr i Wrecsam, Bangor a Rhyl yn boblogaidd ymysg cefnogwyr Forest ar ôl iddo arwain y clwb at ddyrchafiad i’r Uwch Gynghrair yn 2022, a llwyddo i osgoi cwympo oddi yno y tymor canlynol.
Inline Tweet: https://twitter.com/LCFC/status/1803728550169649218
Ond gyda’r clwb yn y 17eg safle, fe gafodd ei ddiswyddo'r tymor diwethaf.
Roedd Cooper yn rheolwr ar dîm dan 17 Lloegr a enillodd Cwpan y Byd yn 2017, cyn treulio dau dymor fel rheolwr Abertawe.
Llun: Asiantaeth Huw Evans