Miloedd yn marw’n ddiangen yng Nghymru yn ôl data newydd
Mae data newydd wedi awgrymu bod miloedd yn marw yn ddiangen yng Nghymru bob blwyddyn.
Yn ôl y data gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan yn ne-ddwyrain Cymru oedd â’r ail raddfa uchaf o farwolaethau y gellir eu hosgoi ar draws Cymru a Lloegr.
Mae’r corff ystadegau yn cyfri marwolaethau y byddai wedi bod modd eu hatal neu eu trin ymhlith pobl dan 75 oed ymysg y ffigyrau.
Maen nhw’n cynnwys marwolaethau o glefydau y gellir eu hatal â brechlyn, neu achosion o ganser lle gallai claf fod wedi derbyn gofal yn gynharach.
Roedd 315 ym mhob 100,000 o bobol o fewn rhanbarth Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan wedi marw heb fod eisiau – sef 1,728 o farwolaethau.
Roedd y gyfradd yn ail yn unig ar draws Cymru a Lloegr y tu ôl i wasanaethau iechyd Manceinion Fwyaf, lle’r oedd 316 o farwolaethau y gellir bod wedi eu hosgoi i bob 100,000 o bobl.
Roedd y ffigwr ar draws y ddwy wlad yn uwch yng Nghymru na Lloegr, gyda 274 marwolaeth y gellir bod wedi ei osgoi i bob 100,000 o bobol yng Nghymru a 238 yn Lloegr.
Dywedodd llefarydd ar ran melin drafod iechyd The King’s Fund a gasglodd yr ystadegau ynghyd bod cysylltiad amlwg rhwng tlodi a’r ardaloedd lle’r oedd nifer y marwolaethau diangen ar eu huchaf.
“Mae’n dystiolaeth bod iechyd y cyhoedd ar y cyfan yn gwaethygu,” meddai Veena Raleigh o The King’s Fund.
“'Mae'r holl farwolaethau y gellir eu hosgoi yn arwain at ganlyniadau dinistriol i unigolion, teuluoedd, cymunedau a'r economi.
“Mae atal afiechyd a lleihau marwolaethau cynamserol yn sicr yn un o heriau mwyaf ein hoes.”
Gweddill Cymru
Roedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi cofnodi 307 a 281 o farwolaethau y gellir eu hosgoi fesul 100,000 o bobl.
Cofnododd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe 1,728 o farwolaethau y gellir bod wedi eu hosgoi tra y cofnododd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg 1,152.
Cofnododd Bwrdd Iechyd Addysgu Powys y gyfradd marwolaethau y gellir bod wedi eu hosgoi isaf yn y wlad, sef dim ond 215 o farwolaethau fesul 100,000 o'r boblogaeth gyda 322 o farwolaethau.
254.7 ym mhob 100,000, neu 1,020 oedd y ffigwr ym Mwrdd Iechyd Hywel Dda a 269.1 ym mhob 100,000, neu 1,870 oedd y ffigwr ym Mwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr.