Newyddion S4C

Cyhuddo menyw o geisio llofruddio wedi digwyddiad yng nghanol Pontypridd

20/06/2024
Kwik Fit Pontypridd

Mae menyw wedi ei chyhuddo o geisio llofruddio wedi digwyddiad honedig yng nghanol Pontypridd.

Bydd Rayal Milne, 45, o Bontypridd yn ymddangos gerbron Llys Ynadon Merthyr Tudful ddydd Iau.

Mae dyn 58 oed o bentref Pentre i’r gogledd-orllewin o Bontypridd yn parhau yn yr ysbyty lle mae’n cael triniaeth am ei anafiadau.

Dywedodd yr heddlu nad oedden nhw'n chwilio am neb arall mewn perthynas â'r digwyddiad rhwng adeilad y Gwasanaeth Prawf a Kwikfit yn y dref.

Dywedodd y Ditectif Ringyll Amy Baker: “Rwyf am ddiolch i aelodau’r gymuned sydd wedi dod ymlaen ac wedi cefnogi ein hymchwiliad.

“Gofynnir i unrhyw un a welodd y digwyddiad gysylltu â ni gan ddyfynnu cyfeirnod 2400200568.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.