
Ymgeisydd y Blaid Lafur ar Ynys Môn yn galw ar bobl i beidio fandaleiddio arwyddion
Mae ymgeisydd y Blaid Lafur ar Ynys Môn wedi galw ar bobl i beidio fandaleiddio arwyddion yr ymgeisydd Ceidwadol.
Daw wedi i arwydd ar yr A545 rhwng Porthaethwy a Biwmares yn cefnogi’r ymgeisydd Ceidwadol Virginia Crosbie gael ei orchuddio â phaent coch.
Yn ôl yr arolygon barn fe fydd Ynys Môn yn ras agos rhwng yr ymgeisydd Ceidwadol, Ieuan Môn Williams i’r Blaid Lafur a Llinos Medi i Blaid Cymru.
Dywedodd Ieuan Môn Williams, ymgeisydd seneddol Llafur Cymru, y “dylai pawb fod yn rhydd i gefnogi pa bynnag ymgeisydd maen nhw’n ei ddewis”.
“Mae fandaleiddio neu ddinistrio deunyddiau sy’n dangos cefnogaeth dim ond oherwydd nad ydych chi’n cytuno â’r ymgeisydd yn gwbl anghywir,” meddai.
“Mae Virginia Crosbie yn cyflwyno ei hachos i bobl Ynys Môn, yn union fel yr ydw i.
“Bydd rhai i bobl yr ynys benderfynu drostynt eu hunain ar 4 Orffennaf pwy y byddan nhw’n ymddiried ynddyn nhw gyda’u pleidlais.”

Dywedodd Virginia Crosbie, yr aelod seneddol blaenorol, ei fod yn “ymosodiad ar ein democratiaeth”.
“Mae’n drist iawn ond yn arwydd o’n hamser yn anffodus,” meddai.
“Rwy’n gresynu at unrhyw fandaliaeth o arwyddion gwleidyddol, beth bynnag fo’r blaid.
“Dylai pawb fod yn rhydd i fynegi cefnogaeth i unrhyw ymgeisydd.”