Brechu heb apwyntiad: Canolfannau ar agor ar draws Cymru
Fe fydd canolfannau brechu Covid-19 ar agor gan gynnig brechlyn heb apwyntiad i’r cyhoedd drwy gydol y penwythnos hwn.
Gall pob unigolyn dros 18 oed fynychu’r canolfannau i dderbyn dos o’r brechlyn heb yr angen idrefnu apwyntiad o flaen llaw, ac mae byrddau iechyd yn annog pobl ifanc yn benodol i fanteisio ar y cyfle.
Mae Llywodraeth Cymru'n dweud fod dros 75% o oedolion dan 50 oed bellach wedi derbyn o leiaf un dos o'r brechlyn i'w hamddiffyn rhag Covid-19.
Mae'r ffigyrau diweddaraf gan Iechyd Cyhoeddus Cymru'n dangos fod y gyfradd o achosion Covid-19 yn 71.7 fesul 100,000 o'r boblogaeth.
Mewn pum sir, mae'r gyfradd bellach yn 100 achos neu fwy i bob 100,000 person, gyda'r gyfradd wedi croesi'r nifer hwnnw yn Nghaerdydd, Conwy, Gwynedd, Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam.
Dywedodd Eluned Morgan, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: “Fe ddylai pob oedolyn yng Nghymru bellach fod wedi cael cynnig y brechlyn, ond rydyn ni'n gwybod y gallai pobl fod wedi gorfod canslo eu hapwyntiadau, neu efallai eu bod wedi methu mynd iddynt, mewn rhai achosion.
“Rydyn ni am ei gwneud mor hawdd â phosibl i bobl gael eu brechlyn, yn enwedig oedolion iau sydd â galwadau eraill ar eu hamser," ychwanegodd.
"Yng Nghymru mae gennym bolisi "gadael neb ar ôl" ac mae sicrhau bod apwyntiadau ‘galw i mewn’ ar gael yn ffordd arall o sicrhau bod brechiad ar gael i bob oedolyn ar amser ac mewn lleoliad sy'n gyfleus iddynt.”
Manylion cyswllt byrddau iechyd lleol:
Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan
Rhif ffôn: 0300 303 1373
Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
Rhif ffôn: 03000 840004
Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro
Rhif ffôn: 02921 841234
E-bost: cvuhb.massimms@wales.nhs.uk
Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg
Rhif ffôn: 01685 726464
e-bost: CTM.VaccinationEnquiries@wales.nhs.uk
Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda
Rhif ffôn: 0300 303 8322
E-bost: COVIDenquiries.hdd@wales.nhs.uk
Bwrdd Iechyd Addysgu Powys
Rhif ffôn: 03456 027 053
E-bost: Powys.covidvacc@wales.nhs.uk
Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe
Rhif ffôn: 01792 200492 / 01639 862323
E-bost: sbu.covidbookingteam@wales.nhs.uk