Newyddion S4C

Honiadau betio: Ymgeisydd y blaid Geidwadol yn 'ystyried camau cyfreithiol'

20/06/2024

Honiadau betio: Ymgeisydd y blaid Geidwadol yn 'ystyried camau cyfreithiol'

Mae un o ymgeiswyr y blaid Geidwadol wedi dweud ei bod yn ystyried camau cyfreithiol yn erbyn y BBC a darlledwyr eraill yn dilyn adroddiadau ei bod hi a’i gŵr yn destun ymchwiliad gan y Comisiwn Hapchwarae. 

Y gred yw bod yr ymchwiliad yn ymwneud ag amseru bet honedig ar ddyddiad yr etholiad cyffredinol.

Mewn datganiad ar ran Laura Saunders – ymgeisydd y blaid yn Bristol North West – brynhawn Iau, dywedodd ei chyfreithiwr ei bod yn ystyried cymryd camau cyfreithiol yn erbyn y BBC a darlledwyr eraill gan ddweud ei bod yn “amhriodol” i gynnal ymchwiliad o’r fath drwy’r cyfryngau.

Daeth i’r amlwg yn gynharach ddydd Iau fod y Comisiwn Hapchwarae yn ymchwilio i ail ymgeisydd Ceidwadol ynglŷn ag amseru bet honedig ar ddyddiad yr etholiad cyffredinol. Nid yw'n hysbys pryd y cafodd y bet honedig ei gosod na chwaith am faint o arian.

Mae cyfarwyddwr ymgyrchu y Ceidwadwyr, Tony Lee, yn briod i Laura Saunders, ac mae wedi cymryd seibiant o’i swydd yn dilyn yr adroddiadau am fetio. 

Dywedodd datganiad gan gyfreithiwr Laura Saunders, Nama Zarroug : “Fel y mae’r blaid Geidwadol eisoes wedi nodi, mae ‘na ymchwiliad ar droed.

“Fe fydd Ms Saunders yn cydweithio gyda’r Comisiwn Hapchwarae ac nid oes ganddi ragor i’w ychwanegu.

“Roedd erthygl a gafodd ei chyhoeddi gan y BBC yn gynamserol ac mae’n amharu ar ei hawl i breifatrwydd.

“Mae’n ystyried cymryd camau cyfreithiol yn erbyn y BBC a chyfryngau eraill sydd yn amharu ar ei hawl i breifatrwydd.”

Mae Laura Saunders wedi gweithio i'r Ceidwadwyr ers 2015. 

Daw’r cyhoeddiad am y betio honedig wedi i Craig Williams, ymgeisydd y Ceidwadwyr yn sedd Maldwyn a Glyndŵr, gael gwybod ei fod dan ymchwiliad am fetio ar amseru'r Etholiad Cyffredinol.

Dywedodd ei fod wedi gwneud “camgymeriad difrifol” drwy osod y bet, gan ychwanegu: "Fe ddylwn i fod wedi ystyried sut roedd o'n edrych."

'Proses'

Wrth gyfeirio at achos Laura Saunders, dywedodd llefarydd ar ran y Blaid Geidwadol bod y Comisiwn Hapchwarae wedi cysylltu â nhw “ynglŷn â nifer fach o unigolion”. 

“Gan fod y Comisiwn Hapchwarae yn gorff annibynnol, ni fyddai’n briodol gwneud sylw pellach, nes bod unrhyw broses wedi’i chwblhau."

Ddydd Mercher daeth i’r amlwg fod heddwas o dîm amddiffyn y Prif Weinidog Rishi Sunak wedi cael ei arestio mewn cysylltiad ag achos honedig o fetio ar amseriad yr etholiad cyffredinol.

Mae’r swyddog wedi’i wahardd o’i waith am y tro.

Dywedodd Heddlu’r Met: “Cafodd y mater ei gyfeirio ar unwaith at swyddogion yng Nghyfarwyddiaeth Safonau Proffesiynol y Met.

“Cafodd ymchwiliad ei agor, ac fe gafodd y swyddog ei dynnu o’i ddyletswyddau gweithredol hefyd.”

Cyfaddefodd gweinidog y cabinet Michael Gove nad yw’r sefyllfa “yn edrych yn wych” i’r Ceidwadwyr.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.