Cynllun i agor cartref preswyl newydd i blant yng Ngwynedd
Mae Cyngor Gwynedd wedi cyhoeddi cynllun i agor cartref preswyl newydd i blant yn y sir.
Dywedodd y cyngor eu bod yn bwriadu agor “cartref preswyl bychan” ar gyfer plant ym mhentref Morfa Bychan ger Porthmadog.
Bwriad y cynllun newydd yw sicrhau bod gofal preswyl yn cael ei ddarparu gan y sector cyhoeddus.
Mae'n rhan o gynllun ehangach Llywodraeth Cymru i ddileu elw preifat o ofal ar gyfer plant sy'n derbyn gofal.
Dywedodd llefarydd ar ran Cyngor Gwynedd: “Nid oes cartref preswyl yng Ngwynedd ar hyn o bryd, ac felly mae mwyafrif ein lleoliadau preswyl mewn darpariaeth breifat (gydag ambell un mewn darpariaeth trydydd sector).
“Mae’r cartref yma felly yn ymdrech i newid y ddarpariaeth yma a hynny yn unol â bwriadau Llywodraeth Cymru.”
Recriwtio
Mae'r broses o recriwtio gweithwyr preswyl a dirprwy reolwr ar gyfer y cartref eisoes ar waith.
Mewn datganiad, dywedodd Cyngor Gwynedd y bydd y swyddi yn “helpu i warchod a meithrin plant a phobl fregus”.
Bydd sesiwn galw heibio yn cael ei chynnal er mwyn rhoi cyfle i bobl sydd â diddordeb gweithio yn y maes ddod am sgwrs anffurfiol.
Mae'r digwyddiad yn rhan o ymgyrch ehangach i ddenu mwy o bobl i weithio yn y maes gofal, medden nhw.
Dywedodd Marian Parry Hughes, pennaeth adran plant a theuluoedd Cyngor Gwynedd: “Os ydych chi’n awyddus i wneud gwahaniaeth i fywydau plant yma yng Ngwynedd ac yn chwilio am her newydd, mae’n bosib fod y swyddi hyn yn ddelfrydol i chi.
“Mae’r math yma o swyddi yn gallu rhoi boddhad mawr, a hefyd agor y drws i lwybr gyrfa ddiddorol i ffyniannus o fewn gwasanaethau cyhoeddus.”
Bydd y sesiwn galw heibio yn cael ei chynnal yng Ngwesty’r Royal Sportsman, Porthmadog ar ddydd Mercher, 26 Mehefin, rhwng 15:00 a 19:00.