Newyddion S4C

Carcharu dyn o'r de oedd wedi 'gwirioni' ar arfau o bob math

19/06/2024
Billy Price

Mae dyn o'r de oedd 'wedi gwirioni' ar arfau o bob math wedi ei garcharu am chwe blynedd.

Fe wnaeth Billy Price, 46 oed, o Gasnewydd ymddangos yn Llys y Goron Caerdydd ddydd Mercher ar ôl pledio'n euog i fod ag arf yn ei feddiant gyda'r bwriad o greu ofn trais a bod â dryll oedd wedi ei wahardd yn ei feddiant.

Fe'i cafwyd yn euog hefyd o fod â deunydd ffrwydrol yn ei feddiant.

Cafodd ei arestio ger ei gartref yn ardal y Betws y llynedd, cyn i swyddogion ddarganfod casgliad sylweddol o arfau, gan gynnwys dryll, deunydd ffrwydrol, cleddyf a ffust ddyrnu ('flail').

Dywedodd y Ditectif Brif Arolygydd Matthew Edwards: "Mae Price yn ddyn peryglus sydd wedi gwirioni gydag arfau o bob math ac sydd gydag agwedd ffwrdd a hi.

"Ni fydd Heddlu Gwent yn goddef perchnogi arfau gyda'r bwriad o achosi niwed ac rydym yn gobeithio y bydd y ddedfryd hon yn atgoffa eraill ein bod yn cymryd pob adroddiad o arfau yn ddifrifol iawn."

Cafodd Price ei garcharu am chwe mlynedd, ac fe fydd ar drwydded estynedig am bedair mlynedd. Cafodd ei arfau eu meddiannu gan yr heddlu ac fe fyddan nhw'n cael eu dinistrio.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.