Newyddion S4C

Cyhoeddi stampiau arbennig i ddathlu 60 mlynedd Y Red Arrows

20/06/2024

Cyhoeddi stampiau arbennig i ddathlu 60 mlynedd Y Red Arrows

Mae'r Post Brenhinol wedi cyhoeddi cyfres o stampiau newydd i ddathlu 60 mlynedd o sioeau'r Red Arrows.

Bydd y gyfres yn cynnwys wyth stamp ac yn dangos lluniau o fwg coch, gwyn a glas adnabyddus yr awyrennau.

Mae pedwar stamp ychwanegol yn dangos yr awyrennau yn perfformio uwchben lleoliadau enwog ar draws y byd gan gynnwys y Tŵr Eiffel, y Pyramids a Niagara Falls.

Cafodd Y Red Arrows eu ffurfio yn 1964, gan berfformio eu sioe gyntaf saith mis yn ddiweddarach.

60 mlynedd ers hynny mae peilot awyren Red 1 ac arweinydd y sgwadron, Jon Bond, yn dweud bod y garreg filltir yn dathlu pawb sydd wedi helpu'r Red Arrows mewn unrhyw ffordd.

“Mae'r garreg filltir hon yn tanlinellu rhagoriaeth, ymrwymiad a balchder pob un sydd wedi gweithio i, cefnogi neu hyd yn oed gwylio sioe'r Red Arrows dros y 60 mlynedd diwethaf," meddai.

"Yn ogystal â dathlu'r dreftadaeth hon, gobeithio bydd y stampiau yma - sydd yn cynnwys lluniau gwych gan weithwyr yr Awyrlu - yn ysbrydoli llawer mwy."

'Trawiadol'

Ychwanegodd David Gold, cyfarwyddwr materion allanol a pholisi'r Post Brenhinol, eu bod yn falch dathlu 60 mlynedd Y Red Arrows.

"Yn ystod dathliadau cenedlaethol pwysig fel Coroni'r Brenin a chynrychioli'r DU yn fyd eang, mae'r Red Arrows wedi ein diddanu gyda'u perfformiadau rhagorol," meddai.

"Rydym yn falch i ddathlu 60 mlynedd gyda'r stampiau trawiadol newydd yma."

Bydd y stampiau ar gael o ddydd Mawrth ymlaen.

Llun: Post Brenhinol / PA

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.