Baban saith mis oed wedi marw ar ôl ymosodiad gan gi
Mae baban saith mis oed wedi marw yn dilyn ymosodiad gan gi.
Cafodd yr heddlu a’r gwasanaeth ambiwlans eu galw i gyfeiriad ar Ffordd Shorncliffe, Coventry am 15.00 ddydd Sul ar ôl adroddiad o ymosodiad gan gi.
Fe wnaeth merch saith mis oed ddioddef anafiadau difrifol i’w phen ar ôl cael ei brathu gan gi’r teulu y tu mewn i’w cartref.
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr: “Cafodd driniaeth yn y fan a’r lle gan barafeddygon cyn cael ei rhuthro i’r ysbyty am driniaeth bellach.
"Yn anffodus, bu farw ychydig yn ddiweddarach. Mae ein meddyliau ni gyda’i theulu ar yr adeg enbyd hon.”
Cafodd y ci ei symud o’r cartref a’i ddifa ar ôl yr ymosodiad.
Nid oedd y ci yn cael ei ystyried yn un oedd yn perthyn i frîd peryglus.
“Rydym yng nghamau cynnar ein hymchwiliad ac mae ein hymholiadau’n parhau,” ychwanegodd llefarydd ar ran yr heddlu.