Seiclo: Y Cymro Josh Tarling yn ennill Pencampwriaeth Prydain am yr ail flwyddyn yn olynol
Mae’r Cymro Josh Tarling wedi ennill ras yn erbyn y cloc ym Mhencampwriaethau Seiclo Prydain am yr eildro yn olynol.
Fe lwyddodd y seiclwr 20 mlwydd oed o Aberaeron i gwblhau’r cwrs 30 cilomedr mewn 39 munud a 22 eiliad, gyda mantais sylweddol o funud ac 13 eiliad dros Max Walker, oedd yn ail.
Dyma’r ail dro i Tarling ennill y ras - er mai dyma'r ail dro'n unig iddo gymryd rhan ynddi.
Inline Tweet: https://twitter.com/INEOSGrenadiers/status/1803437756296671563
Hon oedd ail fuddugoliaeth y tymor i’r beiciwr o dîm Ineos Grenadiers, wedi iddo drechu rhai o enwau mwya’r gamp i ennill ras yn erbyn y cloc yn ras O Gran Camino yn Sbaen fis Chwefror.
Daeth yn ail yn ras yn erbyn y cloc yn y Criterium du Dauphine yn gynharach fis Mehefin hefyd, gan golli i un o’r ffefrynnau ar gyfer y Tour de France eleni, Remco Evenepoel o Wlad Belg.
Bydd Josh Tarling yn cynrychioli Prydain yn y as yn erbyn y cloc yn y Gemau Olympaidd ym Mharis fis Gorffennaf.