Tân yn difrodi campfa newydd sbon yn Llandysul
Mae campfa newydd sbon ar leoliad hen ysgol uwchradd yng Ngheredigion wedi ei difrodi gan dân lai na phythefnos ers iddi agor ei drysau.
Cafodd y gwasanaeth tân eu galw i Y Gampfa, Llandysul yn ystod oriau man y bore dydd Iau, 13 Tachwedd.
Agorodd Y Gampfa ei drysau ar 1 Tachwedd ar hen safle Ysgol Dyffryn Teifi, a gaeodd yn 2016.
Ond mae'r perchnogion bellach yn dweud y bydd ar gau am rai wythnosau wrth i'r heddlu ymchwilio i'r hyn achosodd y tân ac wrth i'r difrod gael ei drwsio.
Dywedodd un o reolwyr Y Gampfa, James Turner, bod hwn yn ddatblygiad “hynod o siomedig” i’r fenter newydd, ond bod ymateb y gymdeithas wedi bod yn “galonogol dros ben.”
“Rydyn ni wedi cael ymatebion cadarnhaol iawn ar y cyfryngau cymdeithasol, yn ysgrifennu atom i ddweud fod gennym ni cefnogaeth y gymuned” meddai.
“Mae cael yr ymateb hwnnw wedi bod yn anhygoel. Mae'n ei wneud yn gwbl werth chweil ac wedi rhoi'r hyder i ni i gael yn ôl ar ein traed yn fuan."
Nod Y Gampfa, yn ôl James, oedd cynnig lleoliad i’r gymuned leol allu ymarfer corff, yn lle gorfod teithio dros 30 munud i’w cyfleusterau agosaf.
“Fe wnes i siarad gyda’r boblogaeth leol, a oedden nhw yn gweiddi am gyfleusterau campfa well yn nes at adref," meddai.
“Rydyn ni wedi cael ymateb hynod o gadarnhaol gyda dros 200 o aelodau yn cofrestru dros ein penwythnos agoriadol.”
Mae James yn gobeithio bydd Y Gampfa yn gallu cael effaith bositif ar y gymuned, ac yn helpu i hybu'r economi yn lleol.
“Bysai llwyddiant i mi yn golygu bod Y Gampfa yn gallu ffynnu, nid yn unig fel menter fasnachol, ond ei bod yn cael ei gweld fel rhywbeth da i'r dref hefyd," meddai.
“Rydym ni yn ymwybodol iawn o ein rôl o fewn y gymuned ehangach, ac yn ei gymeryd o ddifri.”
Chafodd neb ei anafu yn y tân, yn ôl James, ac maent yn gobeithio y byddant yn gallu ail-agor eu drysau yn fuan.