Rygbi: Cyfle i Gymru daro yn ôl yn erbyn Japan

Rygbi: Cyfle i Gymru daro yn ôl yn erbyn Japan

Wedi'r siom o golli yn drwm yn erbyn Yr Ariannin ddydd Sul diwethaf, fe fydd Cymru yn gobeithio curo Japan am yr eildro mewn ychydig fisoedd ddydd Sadwrn.

Dyma'r trydydd tro mewn ychydig o fisoedd i Gymru wynebu Japan.

Fe gollodd Cymru o 24-19 yn erbyn Japan yn y gêm gyntaf yng nghyfres yr haf ym mis Gorffennaf, ond fe orffennodd y gyfres yn gyfartal ar ôl iddyn nhw lwyddo i ennill o 31-22 wythnos yn ddiweddarach. 

Dyma oedd buddugoliaeth gyntaf Cymru ers mis Hydref 2023.

Mae prif hyfforddwr y tîm cenedlaethol Steve Tandy yn chwilio am ei fuddugoliaeth gyntaf ers cael ei benodi.

Fe gollodd Cymru o 28-52 yn erbyn Yr Ariannin yn y gêm gyntaf o bedair gornest ryngwladol yng nghyfres yr hydref yng Nghaerdydd.

Cwpan y Byd 2027

Mae gan y gêm ddydd Sadwrn bwysigrwydd hefyd o ran penderfynu ar grwpiau Cwpan y Byd 2027 yn Awstralia, a fydd yn cael eu trefnu fis nesaf. 

Fe fydd y chwe thîm uchaf yn rhestr detholion y byd yn cael eu gosod ym Mand Un, gan osgoi chwarae ei gilydd yn rownd y grwpiau. 

Fe fydd y chwe thîm nesaf, o rhif saith i 12, yn cael eu dewis yn Ail Band y timau. 

Mae'n hollbwysig felly fod Cymru yn aros yn y 12fed uchaf os ydyn nhw eisiau sicrhau llwybr mwy ffafriol. 

Mae Cymru ar hyn o bryd yn y 12fed safle yn y byd, gyda Japan un safle yn is yn y 13eg safle, gan olygu fod buddugoliaeth i dîm Steve Tandy yn hollbwysig ddydd Sadwrn. 

Byddai gêm gyfartal neu fuddugoliaeth i Japan yn eu gweld nhw yn symud i'r 12fed safle, a Chymru yn disgyn i'r 13eg safle. 

Mae sicrhau'r fuddugoliaeth ddydd Sadwrn hefyd yn hollbwysig o ystyried mai gwrthwynebwyr nesaf Cymru ydy Seland Newydd a De Affrica. 

'Y pwysau yn cael ei deimlo gan Gymru'

Mae rheolwr Japan Eddie Jones wedi dweud yr wythnos hon ei fod yn gobeithio y bydd y ffaith nad yw Cymru wedi ennill gartref ers dros ddwy flynedd yn fwrn i dîm Steve Tandy.

"Fe fydd y pwysau o beidio ag ennill am ddwy flynedd gartref yn cael ei deimlo gan Gymru," meddai.

"Weithiau, gall hynny fod yn fantais, ond weithiau mae'n fwrn. Ein swydd ni yw sicrhau ei fod yn fwrn."

Tîm Cymru

Bydd Louis Rees-Zammit yn dechrau i Gymru wedi iddo gamu o’r fainc i chwarae ei gêm gyntaf i Gymru ers Cwpan Rygbi’r Byd 2023 ddydd Sul diwethaf.

Y bachwr Dewi Lake fydd yn arwain y tîm ar ôl anaf Jac Morgan wedi iddo gael y profiad o wneud hynny yn y ddwy gêm brawf yn Japan ym mis Gorffennaf.

Yn ymuno â Lake yn rheng flaen Cymru bydd y prop pen rhydd Nicky Smith, ac Archie Griffin, fydd yn brop pen tynn – sef yr un triawd ddechreuodd yr ail brawf yn Kobe yr haf hwn.

Mae Dafydd Jenkins ac Adam Beard yn parhau gyda’u partneriaeth yn yr ail reng.

Yn y rheng ôl, mae Aaron Wainwright yn symud o safle’r wythwr i fod yn flaen-asgellwr ochr dywyll tra bo Alex Mann yn dechrau ar ochr agored y rheng ôl. 

Wedi i’r wythwr, Olly Cracknell gamu o’r fainc ddydd Sul i ennill ei gap cyntaf – gan ddod y 1,216fed chwaraewr rhyngwladol i gynrychioli Cymru yn y broses – mae’n cael ei gyfle cyntaf i ddechrau dros ei wlad ddydd Sadwrn yma.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.