Gêm dyngedfennol i Gymru wrth wynebu Liechtenstein
Fe fydd Cymru yn herio Liechtenstein oddi cartref nos Sadwrn mewn gêm dyngedfennol yn rowndiau rhagbrofol Cwpan y Byd.
Gyda dwy gêm yn weddill o'r ymgyrch, mae Cymru yn y trydydd safle gyda 10 pwynt.
Ond byddai buddugoliaeth yn erbyn Liechtenstein nos Sadwrn, a buddugoliaeth yn erbyn Gogledd Macedonia yn Stadiwm Dinas Caerdydd nos Fawrth yn sicrhau fod Cymru yn hawlio'r ail safle a llwybr ffafriol yn y gemau ail-gyfle.
Mae Liechtenstein ar waelod Grŵp J, ac wedi colli pob un o'u chwe gêm.
Fe enillodd Cymru o 3-0 yn Stadiwm Dinas Caerdydd yn erbyn Liechtenstein ym mis Mehefin, ac mae'r rheolwr Craig Bellamy wedi dweud ei fod yn "disgwyl buddugoliaeth yn eu herbyn".
"Dwi ddim yn mynd i guddio hynny," meddai. "Mae Gogledd Macedonia yn gêm wahanol, ond dwi'n teimlo eu bod nhw wedi bod yn ffodus i beidio colli.
"Does yna ddim llwybr hawdd, ond dyna wyt ti'n disgwyl wrth geisio cyrraedd Cwpan y Byd. Os ydyn ni'n gorffen yn ail, yna fe fyddwn ni'n gallu osgoi rhai o'r timau gorau yn eu caeau nhw, ac mae hynny yn ysgogiad i ni."
Mae Ben Davies a Kieffer Moore allan o'r garfan yn sgil anafiadau, yn ogystal â Ben Cabango. Fe fydd Isaak Davies and Rhys Norrington-Davies yn dod yn eu lle.
Beth sydd angen i Gymru ei wneud?
Mae tynged Cymru yn eu dwylo eu hunain i sicrhau’r ail safle, ond mae'n rhaid iddyn nhw guro Liechtenstein oddi cartref a Gogledd Macedonia yng ngêm olaf y grŵp yng Nghaerdydd i wneud hynny.
Yn dechnegol, byddai buddugoliaeth efo gwahaniaeth goliau sylweddol yn erbyn Liechtenstein a gêm gyfartal yn erbyn Gogledd Macedonia hefyd yn ddigon i sicrhau’r ail safle.
Os ydy Cymru yn gorffen yn drydydd, maen nhw fwy neu lai yn sicr o gêm ail-gyfle a hynny yn dilyn eu llwyddiant nhw yng Nghynghrair y Cenhedloedd y llynedd.
Ond yr anfantais o hynny ydy y bydd hi'n llawer anoddach iddyn nhw gyrraedd Cwpan y Byd wrth iddyn nhw orfod wynebu rhai o dimau cryfaf Ewrop.
Pe bai Cymru yn gorffen yn ail yn y grŵp, fe fyddan nhw ym Mhot 1 neu Bot 2 efo rownd gyn-derfynol yn y gêm ail-gyfle yng Nghaerdydd yn erbyn tîm sydd wedi eu dethol yn is na nhw.
Os ydyn nhw yn gorffen yn drydydd, fe fydd yn rhaid i Gymru ennill oddi cartref yn erbyn un o dimau cryfaf Ewrop yn y rownd gynderfynol.
