Llais y stadiwm yn paratoi i roi'r gorau i'w rôl wedi 35 mlynedd

Iestyn Garlick

Mae ‘llais y Stadiwm Genedlaethol’ yn gobeithio ei fod wedi llwyddo i sicrhau “lle blaenllaw” i’r Gymraeg wrth iddo baratoi i roi’r gorau i’w rôl ar ôl 35 mlynedd o wasanaeth. 

Gyda thair gêm yn weddill ar gyfer Cymru yn Nhymor yr Hydref – gan gynnwys yn erbyn Japan ddydd Sadwrn – fe fydd cefnogwyr rygbi’n clywed llais yr actor Iestyn Garlick yn atseinio dros uchelseinydd Stadiwm Principality yng Nghaerdydd am y tro olaf ddiwedd mis Tachwedd eleni. 

Roedd Iestyn yn fwyaf adnabyddus am ei gymeriad 'Jeifin Jenkins' a oedd yn cyflwyno nifer o raglenni plant ar S4C yn ystod yr 1980au, gan gynnwys HAFoc a Jeifin a Jeifin ym mhobman, ac yn ddiweddarach am chwarae rhan Jim Gym yn y gyfres Rownd a Rownd.

Ac fel actor ifanc yn y brifddinas fe “faglodd” mewn i’r rôl o gyhoeddi’r sgôr a cheisiadau yng ngemau rygbi Cymru, meddai wrth siarad â Newyddion S4C

“Mi oedd yr enwog Emyr Wyn yn ‘neud rhyw faint o gemau ac ‘odd e’n teimlo nad oedd o rili eisiau cario ‘mlaen," meddai.

“Mi holodd o fysai gennai ddiddordeb a ‘nes i ddweud, ‘Ie, iawn,’ gan feddwl ddim mwy ‘na ‘ny. 

“A dyma ni 35 mlynedd yn ddiweddarach felly mae pethau jyst yn digwydd ar ddamwain llwyr – a mae rhai o’r pethau gorau mewn bywyd wrth gwrs yn digwydd ar ddamwain.”

Image
Iestyn garlick

'Braint'

Yn ystod ei gyfnod wrth y meicroffon, mae hyrwyddo’r Gymraeg wedi bod yn hollbwysig iddo. 

“Dwi’n gobeithio fy mod i wedi cael cyfle dros y blynyddoedd i wneud yn siŵr bod y Gymraeg yn cael ei lle blaenllaw yn y stadiwm,” meddai. 

“A dwi’n gwybod y bydd y bobl sydd yn fy nilyn - ac rwy’n cymryd mai Rhys ap William fydd hwnnw - dwi’n hyderus iawn y bydd o yn cario ‘mlaen yn yr un modd lle dwi’n gorffen.” 

Image
Iestyn Garlick a Rhys ap William
Iestyn Garlick gyda Rhys ap William, sydd hefyd yn sylwebu a chyflwyno yn Stadiwm Principality

Dywedodd ei fod wedi bod yn “fraint” iddo gael y cyfrifoldeb hwnnw, ond mae bellach yn barod i “symud ymlaen.”

“Dwi’n credu mai’r rheswm dwi’n rhoi’r gorau iddi ar ôl gymaint o amser ydy yn syml iawn oherwydd bod ‘na gymaint o amser wedi bod," meddai.

“Dwi wedi bod yn ‘neud y cyhoeddiadau yn y stadiwm am yn hirach ‘na mae’r rhan fwyaf o’r chwaraewyr wedi bod ar y byd ‘ma. Mae hynna yn ei hun yn ddigon i sobri rhywun. 

“Hoffwn i orffen pan mae’r llais dal yn weddol, yn hytrach bo’ chi’n gorffen a cario ‘mlaen yn rhy hir a mae pobl yn mynd, ‘Piti ‘sa Iestyn yn rhoi’r gorau iddi.’ 

“Well gen i bod pobl yn dweud, ‘Duw, piti bod Iestyn wedi rhoi’r gorau iddi.’”

Beth yw'r uchafbwyntiau?

Mae ei gyfnod yn y rôl hefyd wedi pontio dwy stadiwm, wedi iddo ddechrau yn yr hen Stadiwm Genedlaethol ym Mharc yr Arfau yng Nghaerdydd. 

Roedd hynny cyn i Stadiwm y Mileniwm agor ei drysau yn 1999, ac mae bellach yn cael ei hadnabod fel Stadiwm Principality ers 2016.

Ac mae ganddo ddigon o atgofion o’r holl brofiadau ar hyd y blynyddoedd yn sgil hynny hefyd. 

“Dwi wedi bod yn rhan o bedwar Cwpan y Byd yn 1991, ‘99, ‘07 ac ’15, mae hynna yn wobr yn ei hun," meddai.

“Dwi wedi bod yno pan mae ‘na bedwar camp lawn wedi bod.

“Mwy na thebyg yr enwoca’ ohonyn nhw a’r un mwya’ syfrdanol oedd yr un yn erbyn Iwerddon, sef 2005 pan nad oedd Cymru wedi ennill camp lawn am 27 mlynedd, felly oedd hwnna’n ddiwrnod arbennig.”

Image
Iestyn Garlick

'Camgymeriad mwyaf enwog'

Ond dyw’r cyfnod ddim wedi bod heb ei heriau nac ambell gamgymeriad chwaith, meddai. 

“O ran atgofion yn yr hen stadiwm, dwi’n cofio'r diwrnod cynta’ fues i yna a nhw’n dweud wrtha’i, ‘Oce, Iestyn eistedd fan ‘na’ ac mi oedd ‘na jyst stôl a microffon a dim byd arall – dim teledu, dim sgrin, dim byd o gwbl," meddai.

Roedd hynny wedi creu problemau iddo o ran dadansoddi’r gêm gan nad oedd bob tro yn gallu gweld yr hyn oedd yn digwydd ar ben arall y cae. 

“Mi oedd yn iawn wrth gwrs os oedd Cymru yn dod tuag atoch chi, neu’r gwrthwynebwyr, ac yn sgorio o’ch blaen chi," meddai.

“Ond pan oeddwn nhw’n mynd i gyfeiriad Afon Taf ac yn sgorio yn y pen draw, oedd gan rywun dim syniad be’ oedd ‘di digwydd! 

“Dyna bryd ‘nes i sylweddoli ma’ rhaid i fi ‘neud rhywbeth am hyn a phrynais i radio bach a headphones

“Wrth gwrs erbyn hyn mae ‘na sgrins ym mhob man a headphones a pethau felly ond dwi ‘di glynu at yr hen ffordd hen ffasiwn o ‘neud pethau.

Image
Iestyn Garlick

Ond er gwaethaf unrhyw gamgymeriad, mae ‘na bob tro gyfle i wneud yn iawn am hynny hefyd, esboniodd.   

“Un o’r camgymeriadau falle enwog ‘nes i oedd cael y cais cynta’ yn y stadiwm newydd yn anghywir," meddai.

"Mi oedd ‘na wobr i bwy bynnag oedd yn cael y cais cyntaf – rhyw fodrwy aur, aur Cymraeg, gwerth £1,000. 

“Beth welais i oedd crys rhif 12 yn mynd. Doedd e ddim yn sefyllfa annhebyg i sefyllfa oedd yn yr hen stadiwm achos oedd y stadiwm newydd ar ei hanner, doedd ‘na ddim sgrins, doedd dim byd yno. 

“Felly ‘na gyd welais i oedd y rhif 12 ‘ma yn mynd ar draws y llinell, a mi edrychais i yn y rhaglen oedd genna’i, ac mi welais taw rhif 12 oedd Allan Bateman a dyma fi’n cyhoeddi mai cais cynta’ yn y stadiwm oedd Allan Bateman. 

“Erbyn hyn wrth gwrs - Mark Taylor oedd o ag oedd o ‘di newid crysau ond doeddwn i ddim yn gwybod!

“Ond mi wnes i gywiro y’n hun cyn yr egwyl felly fi’n cymryd cysur yn hynny ond mi oedd hwnna’n gamgymeriad eitha’ sylweddol.” 

Wedi degawdau o wasanaeth, mae neges Iestyn yn glir: “Mae wedi bod yn fraint, mae ‘di bod yn sbort, dwi ‘di mwynhau y’n hun yn fawr iawn.”  

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.