Gollwng cemegau ar reilffordd yn effeithio ar wasanaethau Trafnidiaeth Cymru
Fe wnaeth cemegau ollwng ar reilffordd fore Mercher gan effeithio ar wasanaethau Trafnidiaeth Cymru.
Dywedodd National Rail eu bod nhw wedi cael gwybod am y digwyddiad ger Crewe am 5.51 y bore.
Cafodd gwasanaethau Trafnidiaeth Cymru eu heffeithio yn ogystal ag Avanti West Coast, CrossCountry, East Midlands Railway, London Northwestern Railway, a Northern.
Cafodd rhai gwasanaethau eu canslo ac eraill eu hoedi.
Dywedodd National Rail bod y rheilffordd wedi ail-agor am 7.34 ar ôl iddyn nhw archwilio’r traciau.
Dywedodd cyfarwyddwr Network Rail ar gyfer y Gogledd Orllewin, Paul Owen: “Rydym yn gweithio’n agos gyda’r gwasanaethau brys a chwmnïau trenau yn dilyn digwyddiad yn ymwneud â thrên nwyddau.
“Ein blaenoriaeth yw sicrhau bod gwasanaethau yn ddiogel bob amser i helpu teithwyr a defnyddwyr nwyddau i gyrraedd lle maen nhw eisiau mynd.
“Tra bod y rhwydwaith trwy ardal Crewe wedi’i adfer, rydyn ni’n annog pobl i wirio’r wybodaeth deithio ddiweddaraf gyda’u gweithredwr trenau neu National Rail Enquiries.”