Newyddion S4C

Galw am ymchwiliad i adnoddau cristnogaeth honedig mewn ysgol uwchradd

19/06/2024

Galw am ymchwiliad i adnoddau cristnogaeth honedig mewn ysgol uwchradd

Ysgol Uwchradd Llanidloes sy'n cael eu hariannu gan Gyngor Powys. Saesneg yn bennaf yw'r iaith yma a pheth darpariaeth Gymraeg i'r 700 o ddisgyblion.

Ysgol gymunedol, nid un grefyddol yw hon. Ond mae'r gymdeithas seciwlar, yr NSS, wedi derbyn lluniau yn dangos posteri tu fewn i'r ysgol sy'n cyfuno dyfyniadau Beiblaidd gyda phynciau gwyddonol. Mae un poster yn cynnwys y planedau a geiriau Saesneg o'r Salmau.

"Mawr yw gweithredoedd yr Arglwydd fe'u harchwilir gan bawb sy'n ymhyfrydu ynddynt."

Mae poster arall yn dangos bywyd morol o dan adnod o lyfr Genesis sy'n dweud "A chreodd Duw y morfilod mawr a'r holl greaduriaid byw sy'n heigio yn y dyfroedd."

Mae'r NSS yn honni i'r posteri cael eu prynu gyda chyllideb yr ysgol a'u bod yn hyrwyddo creadaeth y gred bod y bydysawd a phethau byw wedi'u creu gan Dduw.

"Parents will have sent their children to this school in the expectation they wouldn't be subjected to evangelism or the promotion of any particular religion.

"We're concerned by a campaign of evangelism by the head teacher."

"Gellid dehongli be sy'n digwydd yn Llanidloes yn y ffordd mae'r gymdeithas seciwlar yn gwneud. Os oes lluniau o fyd natur ac adnodau uwch eu pennau bod hynny'n awgrymu cred mewn creadaeth.

"Nid dyna'r unig ddehongliad. Mae'r cwricwlwm ar grefydd, gwerthoedd a moeseg yn pwysleisio bod eisiau i blant rhyfeddu at y byd naturiol. Efallai cwbl mae'r adnodau'n ddweud ydy bod pobl ar hyd y canrifoedd wedi rhyfeddu at fyd naturiol."

Pennaeth yr ysgol yw Daniel Owen, flaenor mewn eglwys efengylaidd. Mae'r NSS yn honni iddo ddweud wrth staff yr ysgol i gyfeirio disgyblion at y cwrs Alpha, cwrs efengylaidd Cristnogol.

Dyw Mr Owen na'r ysgol ddim wedi ymateb i'n cais am sylw. Mae'r NSS hefyd wedi derbyn llun o dudalen o lawlyfryn yr ysgol sy'n cael ei rhoi i ddisgyblion. Teitl y dudalen yw Help Mewn Amser o Angen.

Mae'n cynnig cymorth ar bynciau fel rhyw, camdriniaeth a hunanladdiad. Yn hytrach na sôn am yr help proffesiynol sydd ar gael mae'r disgyblion yn cael eu cyfeirio at adnodau o'r Beibl.

Mae'r NSS wedi ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn galw arni i wahardd hyrwyddo creadaeth mewn ysgolion.

Yn ôl y Llywodraeth, maen nhw mewn cysylltiad â'r cyngor lleol a ni chaniateir i ysgolion cymunedol gael gogwydd crefyddol.

Dywedodd Cyngor Powys bod y canllawiau ar addysgu crefydd, gwerthoedd a moeseg yn y cwricwlwm yn glir. Mae'r cyngor yn trafod y mater gyda phennaeth yr ysgol a chadeirydd y llywodraethwyr.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.