
Ymgyrchwyr Just Stop Oil yn taflu paent oren dros Gôr y Cewri
Ymgyrchwyr Just Stop Oil yn taflu paent oren dros Gôr y Cewri
Mae ymgyrchwyr o fudiad Just Stop Oil wedi taenu paent oren dros gerrig Côr y Cewri.
Cafodd fideo ar y cyfryngau cymdeithasol ei chyhoeddi yn dangos yr ymgyrchwyr yn chwistrellu paent ar y cerrig cyn-hanesyddol sy’n dod yn wreiddiol o fynyddoedd y Preseli yng ngorllewin Cymru.
Mae mudiad Just Stop Oil wedi cyhoeddi datganiad yn dweud mai Rajan Naidu, 73, a Niamh Lynch, 21 yw'r ymgyrchwyr oedd yn gyfrifol.
Dywed yr heddlu bod dau ddyn wedi eu harestio.
Mae'r Prif Weinidog Rishi Sunak wedi beirniadu'r hyn sydd wedi digwydd fel "gweithred warthus o fandaliaeth."
Dywedodd arweinydd y Blaid Lafur Keir Starmer bod Just Stop Oil yn "pathetig", a dylai'r sawl oedd yn gyfrifol gael eu cosbi.
Daw hyn cyn i dorfeydd ymgasglu ger Côr y Cewri ar wastadedd Caersallog ddydd Iau er mwyn dathlu heuldro’r haf – diwrnod hiraf y flwyddyn.

Mewn datganiad, dywedodd Just Stop Oil mai nod y weithred oedd mynnu bod Llywodraeth newydd y DU yn cytuno ar gynllun i ddod a llosgi olew, nwy a glo i ben erbyn 2030.
Dywedodd llefarydd ar ran y mudiad: “Bydd parhau i losgi glo, olew a nwy yn arwain at farwolaeth miliynau o bobl.
“Mae'n rhaid i ni ddod at ein gilydd i amddiffyn y ddynoliaeth neu rydyn ni'n peryglu popeth.
“Dyna pam mae Just Stop Oil yn mynnu bod ein llywodraeth nesaf yn arwyddo cytundeb cyfreithiol i ddod â llosgi tanwydd ffosil i ben erbyn 2030.”
Lluniau gan PA