
Llafur ‘yn mynd i gerdded i mewn i rif 10’ meddai Ysgrifennydd Cymru
Mae Ysgrifennydd Cymru sy’n ymgeisydd Ceidwadol yn un o etholaethau allweddol Cymru wedi dweud bod Llafur “yn mynd i gerdded i mewn i rif 10”.
Wrth ymddangos ar raglen Never Mind the Ballots dywedodd David TC Davies bod yr etholiad yn mynd i “un cyfeiriad yn unig”.
Daw ei sylwadau wrth i nifer o aelodau cabinet y Ceidwadwyr rybuddio bod Llafur yn mynd i ennill yr Etholiad Cyffredinol gyda mwyafrif sylweddol.
Dywedodd David TC Davies, sy’n ymgeisydd yn Sir Fynwy, fod “lot o bobol yn anhapus iawn” gyda’r Ceidwadwyr a “gwleidyddion yn gyffredinol”.
Pan ofynnwyd iddo sut roedd ei ymgyrch etholiadol yn mynd, cyfaddefodd: “Gallai fod yn well bod yn onest â chi.”
Dywedodd nad oedd yn “gallu dadlau” yn erbyn yr arolygon barn oedd yn awgrymu “y bydd Keir Starmer yn cerdded i mewn i rif 10”.
“Rwy’n edrych ar y polau piniwn a’n credu eu bod nhw’n gywir - dydw i ddim yn gallu cuddio, methu rhedeg i ffwrdd oddi wrth y bobl hyn,” meddai.
“Dydyn nhw ddim bob amser yn ei gael yn iawn. Dydyn nhw byth yn 100% yn iawn.
“Ond maen nhw’n amlwg yn pwyntio at fwyafrif mawr i Lafur.
“Dydw i ddim yn gwybod pa mor fawr fydd hynny, ond wyddoch chi, dydw i ddim yn dwp chwaith.”

‘Amser hir’
Mae ei sylwadau o ag eraill yng nghabinet Llywodraeth y DU yn awgrymu bod y Ceidwadwyr bellach yn canolbwyntio ar arbed cymaint o ASau Ceidwadol a phosib.
Dywedodd Canghellor y Trysorlys, Jeremy Hunt fod yna beryglon wrth ganiatáu i Lafur gael mwyafrif helaeth yr ASau yn San Steffan.
“Dw i’n meddwl pan fydd pobol yn mynd i’r blychau pleidleisio, y byddan nhw’n myfyrio ar beryglon Llafur yn cael mwyafrif mor fawr.
“Mae yna beryg iddyn nhw newid y rheolau drwy roi pleidlais i bobl 16 oed, gan roi pleidlais i ddinasyddion yr UE.
“Mae yna bosibilrwydd y byddan nhw nhw mewn grym nid yn unig am gyfnod byr, ond am amser hir iawn.”