Newyddion S4C

'Ffiaidd': Dyn o Gaerdydd wedi gwneud dros 100 o alwadau bygythiol i'r Gwasanaeth Ambiwlans

19/06/2024
Derbyniwr galwadau

Mae dyn o Gaerdydd a wnaeth dros 100 o alwadau bygythiol ac anweddus i’r gwasanaeth ambiwlans mewn llai nag wythnos wedi osgoi dedfryd o garchar.

Fe wnaeth Adil Hassan, 36 oed, o Sgwâr Loudoun, weiddi, rhegi a defnyddio iaith rywiol anweddus wrth ffonio Gwasanaeth Ambiwlans Cymru dros 100 o weithiau rhwng 10 a 16 Mai.

Yn Llys Ynadon Caerdydd ddydd Gwener, fe blediodd yn euog i'r defnydd cyson o'r gwasanaeth ffôn i achosi annifyrrwch, anghyfleustra neu orbryder.

Dedfrydwyd Hassan i 24 wythnos yn y carchar, wedi'i ohirio am 18 mis, am y troseddau hyn a rhai eraill.

Dywedodd Laura Charles, Rheolwr Rheoli ar Ddyletswydd gyda Gwasanaeth Ambiwlans Cymru: “Yn ystod fy holl flynyddoedd yn y gwasanaeth ambiwlans, dyma’r cam-drin geiriol gwaethaf a glywais erioed o bell ffordd.

“Wrth ffonio 999, nid oedd Hassan yn ffonio i ofyn am help ar gyfer argyfwng meddygol.

“Roedd e’n ffonio i gam-drin y derbynwyr galwadau neu i chwythu stêm am rywbeth oedd yn ei boeni.

“Bu’n rhaid i’r derbynwyr galwadau o bob un o’n tair ystafell reoli yng Nghymru oddef ei iaith anweddus, a hynny wrth ddelio â nifer fawr o alwadau i’r gwasanaeth.

“Un funud, ro’n ni’n derbyn galwad am ataliad ar y galon gan aelod o’r teulu mewn trallod, a’r funud nesaf ro’n ni’n cael ein galw’n buteiniaid gan Hassan.

“Mae’r derbynwyr galwadau wedi’u hyfforddi i aros yn ddigynnwrf ac ymddwyn yn broffesiynol waeth beth maen nhw’n delio ag ef, ond gwnaeth cam-drin Hassan hyn yn anodd.

“Fe wwnaethon ni gymaint ag y gallwn i gefnogi derbynwyr galwadau yn ystod ei fombardio, ond alla i ddim ddechrau dweud faint o effaith a gafodd arnyn nhw.”

'Ffiaidd'

Ychwanegodd Lee Brooks, Cyfarwyddwr Gweithredol Gweithrediadau: “Gallai pob eiliad a dreuliwyd yn delio â galwadau Hassan fod wedi cael ei dreulio yn helpu rhywun mewn ataliad ar y galon neu wrthdrawiad traffig ffordd difrifol.

“Mae un alwad o'r fath yn un yn ormod, ond mae mwy na 100 yn ffiaidd a dweud y gwir."

Plediodd Hassan, sydd hefyd wedi gwneud sawl galwad i Heddlu De Cymru, yn euog i achosi niwsans cyhoeddus yn fwriadol neu'n ddi-hid.

Dywedodd y Ditectif Arolygydd Andy Lewis o Heddlu De Cymru: “Gallai gweithredoedd Adil Hassan beryglu iechyd a diogelwch y cyhoedd oherwydd bod y gwasanaethau brys yn cael eu tagu wrth ddelio â’i alwadau diangen parhaus.

“Ni ddylai neb ddioddef y math o iaith a ddefnyddiodd Hassan yn ystod y galwadau.

“Rydym yn gobeithio y bydd y ddedfryd ohiriedig hon yn rhybudd iddo ei fod mewn perygl o fynd i’r carchar os bydd yn parhau i ymddwyn fel hyn.”

Llun: Llun llyfrgell (Gwasanaeth Ambiwlans Cymru)

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.