Arestio menyw ar amheuaeth o geisio llofruddio ym Mhontypridd
Mae menyw 46 oed wedi’i harestio ar amheuaeth o geisio llofruddio yn dilyn ymosodiad ym Mhontypridd ddydd Mawrth.
Cafodd dyn 58 oed o ardal Pentre ger Treorci ei gludo i’r ysbyty gydag anafiadau all “newid ei fywyd” medd Heddlu De Cymru.
Dywedodd y llu eu bod wedi ymateb i adroddiad o ymosodiad honedig rhwng adeilad y Gwasanaeth Prawf a siop Kwikfit yng nghanol y dre’ am tua 09.00 y bore.
Mae’r fenyw leol wedi’i chadw yn nalfa gorsaf heddlu Merthyr Tudful.
Dyw’r heddlu ddim yn chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â’r digwyddiad.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Kath Barry ei bod yn “diolch i aelodau’r gymuned” sydd wedi cysylltu â’r heddlu gyda manylion all helpu eu hymchwiliad.
Mae’r llu yn apelio am lygad-dystion i gysylltu gan ddyfynnu’r cyfeirnod 2400200568.
Llun: Google Maps