Newyddion S4C

Cyhoeddi enillwyr Priodas Pymtheg Mil yn gynnar ar ôl i’r canllawiau gael eu ‘torri yn ddamweiniol'

18/06/2024
Aled Johnson a Malin Gustavsson

Mae S4C wedi cyhoeddi enw’r pâr sydd wedi ennill gwobr Priodas Pymtheg Mil, a hynny ychydig ddyddiau yn gynnar ar ôl i ganllawiau y gystadleuaeth gael eu "torri yn ddamweiniol".

Dywedodd y darlledwr mai Aled Johnson a Malin Gustavsson o Foncath, Sir Benfro fydd yn serennu yn y rhaglen arbennig.

Bydd y rhaglen i’w gweld ar S4C dros gyfnod gŵyl y Nadolig.

Yn dilyn pleidlais gyhoeddus, dywedodd S4C eu bod nhw “wedi gorfod ffarwelio” gyda'r cwpl arall oedd yn cystadlu, Teresa Thomas a Rutger Heerbout, sy’n rhedeg tafarn yn Llanrug, Gwynedd.

Y nod yn wreiddiol oedd y byddai y bleidlais gyhoeddus yn cau ddydd Gwener.

"Yn anffodus rydym wedi gorfod ffarwelio â Teresa a Rutger o gystadleuaeth Priodas Pymtheg Mil," meddai S4C mewn datganiad wrth Newyddion S4C.

"Yn ddamweiniol fe dorrwyd y canllawiau sy'n ymwneud ag annog pobl i bleidleisio.

"Mae hyn yn golygu bod y bleidlais wedi ei chyfaddawdu.

"Er tegwch i'r cwpwl arall sy'n rhan o'r gystadleuaeth, ac er mwyn cynnal ymddiriedaeth ein gwylwyr yn S4C, rydym wedi gorfod cymryd y penderfyniad anodd i ddod â'r gystadleuaeth i ben.

"Rydym yn dymuno pob hwyl ac hapusrwydd i Teresa a Rutger ac rydym yn cynnig cefnogaeth iddyn nhw yn sgil y penderfyniad.

"Edrychwn ymlaen i helpu gwireddu dymuniadau priodas y pâr llwyddiannus, Aled a Malin, yn ddiweddarach eleni."

'Achlysur'

Mae Aled a Malin yn gweithio gyda phlant a gyda dau o blant eu hunain, Owain a Gwennan. 

Dywedodd Aled ar ddechrau’r gystadleuaeth: “Wnaethom ni ddyweddïo yn Awst 2015. 

“Y rheswm fwyaf pam dyn ni heb wneud e [priodi] yw rheswm ariannol, yn enwedig gyda theulu Malin yn dod o Sweden, er mwyn iddyn nhw bod yn rhan o’r achlysur boed hynny yn Sweden neu yng Nghymru.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.