Newyddion S4C

Mynd i ysgol breifat neu Brifysgol Grŵp Russell 'yn gallu arwain at well iechyd'

19/06/2024
prifysgol caerdydd

Gall mynd i ysgol breifat neu brifysgol Grŵp Russell arwain at well iechyd yn ôl ymchwil newydd. 

Mae astudiaeth newydd yn dangos fod pobl aeth i ysgol breifat yn fwy tebygol i fod â phwysau iach a phwysau gwaed is erbyn eu bod nhw yn 46 oed o'u cymharu â phobl aeth i ysgol wladol. 

Yn y cyfamser, mae pobl aeth i brifysgol Grŵp Russell yn perfformio yn well mewn profion cof yn ôl yr ymchwil. 

Mae Grŵp Russell yn cynnwys 24 o brifysgolion, gan gynnwys Rhydychen a Chaergrawnt, ac yn cael eu hystyried ymysg y goreuon yn y DU.

Prifysgol Caerdydd ydy'r unig brifysgol Grŵp Russell yng Nghymru. 

Mae'r ymchwilwyr o Goleg Prifysgol Llundain (UCL) yn dweud fod y canfyddiadau diweddaraf yn cefnogi rhai yn y gorffennol, sydd wedi dod o hyd i gysylltiad rhwng addysg ac iechyd.

Fe wnaethon nhw awgrymu y gallai nifer o ffactorau egluro'r canlyniadau, gan gynnwys dosbarthiadau llai a mwy o weithgareddau mewn ysgolion preifat.   

Roedd yr astudiaeth yn cynnwys 8,107 o bobl a gafodd eu geni yn 1970, ac fe wnaeth 570 ohonynt fynychu ysgol breifat a 554 wedi mynychu prifysgol Grŵp Russell.

Ychwanegodd yr awduron fod y plant yn yr astudiaeth wedi mynd i'r ysgol yn yr 80au a'r 90au yng nghanol diwygiadau sylweddol yn y system addysg yn y DU. 

 

 



 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.