Newyddion S4C

Joey Barton yn cytuno i dalu £75,000 i Jeremy Vine mewn achos enllib

18/06/2024
Joey Barton a Jeremy Vine

Mae'r cyn-bêl droediwr Joey Barton wedi ymddiheuro i'r darlledwr Jeremy Vine gan gytuno i dalu £75,000 iddo mewn achos enllib yn yr Uchel Lys.

Mewn neges ar X, sef Twitter gynt, dywedodd Mr Barton nad oedd yr honiadau yr oedd wedi eu gwneud yn erbyn Mr Vine, gan gynnwys ei alw yn “bike nonce”, yn wir.

Roedd Mr Vine wedi dwyn achos cyfreithiol am enllib ag aflonyddu yn erbyn Mr Barton o ganlyniad i 14 o negeseuon ar-lein. Roedd rhai negeseuon yn cynnwys galw Mr Vine yn "big bike nonce” a dweud ei fod yn amddiffyn pobl oedd yn camdrîn plant.

Fe wnaeth barnwr yn yr Uchel Lys ddyfarnu fis diwethaf bod 11 o'r sylwadau yn difenwi Jeremy Vine.

Mewn datganiad, dywedodd Mr Barton: "Rhwng 8 a 12 Ionawr 2024 fe wnes i gyhoeddi 11 neges oedd yn cyhuddo Jeremy Vine o fod â diddordeb rhywiol mewn plant, gan greu hashnod oedd yn gwneud yr un honiadau, gafodd eu gweld miliynau o weithiau.

"Rwyf yn cydnabod bod hwn yn honiad difrifol iawn. Mae'n anwir. Nid wyf yn credu fod gan Mr Vine ddiddordeb rhywiol mewn plant, ac fe hoffwn gywiro'r ffeithiau.

"Fe wnes i hefyd gyhoeddi negeseuon yn ystod yr un cyfnod oedd yn cyfeirio at Mr Vine fel un oedd o blaid brechu gorfodol yn ystod y pandemig Covid 19, yn seiliedig ar glip fideo o'i raglen deledu.

“Rwyf yn derbyn nad oedd yn gefnogol o'r polisi yma a bod y clip fideo wedi ei olygu i roi camargraff o'r hyn yr oedd yn ei ddweud.

“Yna fe wnes i wawdio ag aflonyddu Mr Vine am ddwyn achos cyfreithiol yn fy erbyn. Rwyf wedi cytuno i beidio â gwneud yr un honiadau eto yn erbyn Mr Vine ac rwyf yn ymddiheuro iddo am y gofid y mae wedi ei ddioddef."

Mae Joey Barton wedi cytuno i dalu £75,000 i Mr Vine a thalu ei gostau cyfreithiol.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.