Vladimir Putin i ymweld â Gogledd Corea am y tro cyntaf ers 24 mlynedd
Bydd Arlywydd Rwsia, Vladimir Putin, yn ymweld â Gogledd Corea am y tro cyntaf ers 24 mlynedd pan fydd yn teithio i Pyongyang ddydd Mawrth.
Mae disgwyl i Mr Putin gyrraedd y brifddinas i gwrdd ag arweinydd Gogledd Corea, Kim Jong Un yn y brifddinas.
Fe wnaeth y ddau arweinydd gyfarfod ddiwethaf ym mis Medi yn nwyrain Rwsia, ond dyma ymweliad cyntaf Putin â Pyongyang ers 2000.
Mewn llythyr a gyhoeddwyd yn y cyfryngau yng Ngogledd Corea, fe addawodd Putin adeiladu systemau masnach a diogelwch gyda Pyongyang "sydd ddim yn cael eu rheoli gan y Gorllewin".
Mae’r Kremlin wedi disgrifio’r digwyddiad fel “ymweliad gwladwriaeth gyfeillgar”.
Mae cyfryngau Rwsia yn dweud y gallai Putin a Kim Jong Un arwyddo cytundeb bartneriaeth, gan gynnwys materion diogelwch, a bydd y ddau yn rhoi datganiadau ar y cyd i’r cyfryngau.
Dywedodd Kim Jong Un yr wythnos diwethaf fod cysylltiadau â Rwsia wedi “datblygu i fod yn berthynas na ellir ei thorri".
Cyn ei ymweliad diolchodd Putin i Ogledd Corea am eu cefnogaeth i'r wlad wrth i'r rhyfel yn erbyn Wcráin barhau.
Dywedodd yr Unol Daleithiau eu bod yn pryderu am y "berthynas rhwng y ddwy wlad yma".
“Dydyn ni ddim yn poeni am y daith”, meddai llefarydd ar ran y Cyngor Diogelwch Cenedlaethol John Kirby ddydd Llun.
“Yr hyn rydyn ni’n poeni amdano yw’r berthynas ddwys rhwng y ddwy wlad yma.”