Newyddion S4C

Cynnal Gemau Olympaidd mewn tywydd poeth yn 'amhosib' yn y dyfodol

18/06/2024
Gwres athletau

Ar drothwy Gemau Olympaidd Paris mae athletwyr blaenllaw a gwyddonwyr hinsawdd wedi rhybuddio y bydd gwres eithafol yn ei gwneud hi’n “amhosib” cynnal y gemau yn ystod misoedd yr haf.

Fe wnaeth grŵp o athletwyr Olympaidd gydweithio â gwyddonwyr hinsawdd a ffisiolegwyr gwres o Brifysgol Portsmouth i asesu'r bygythiad y gallai tymheredd uchel ei achosi i athletwyr.

Yn yr adroddiad maent yn rhybuddio y gallai gwres dwys yng Ngemau Olympaidd Paris ym mis Gorffennaf ac Awst eleni arwain at gystadleuwyr yn llewygu ac mewn rhai achosion yn marw yn ystod y gemau.

Un o argymhellion yr adroddiad yw newid amserlenni cystadlaethau fel eu bod yn digwydd mewn misoedd oerach neu ar adegau oerach yn y diwrnod.

'Peryglus'

Dywedodd Samuel Mattis, taflwr disgen ar dîm Olympaidd America, fod amodau poeth wedi amharu ar y treialon rhedeg yng Ngemau Olympaidd Tokyo yn 2021. Roedd yn rhaid eu cynnal gyda'r nos yn y pen draw. 

“Rwy’n meddwl mewn llawer o leoliadau, yn yr Unol Daleithiau a ledled y byd, bod cystadlaethau’r haf, oni bai eu bod yn cael eu cynnal yng nghanol y nos, yn mynd i fod yn amhosibl yn y bôn,” meddai.

Dywedodd Jamie Farndale, un o chwaraewyr rygbi saith bob ochr Tîm Prydain, fod gwres eithafol “yn cael effaith fawr” ar berson wrth chwarae.

“Roeddwn i yn chwarae mewn amodau lle rydych chi'n llythrennol yn ceisio mynd trwy'r cam nesaf o chwarae. Mae'ch dwylo yn llawn chwys, gallwch chi ond canolbwyntio ar ddal y bêl. Rwy'n meddwl ei fod yn gwneud y gêm yn waeth. Mae hefyd yn beryglus.”

'Risg uchel'

Wrth siarad cyn i'r adroddiad gael ei ryddhau, dywedodd Kaitlyn Trudeau, sydd yn uwch ymchwilydd gyda'r corff Climate Central bod angen newidiadau neu fe fydd yn amhosib cynnal y Gemau Olympaidd yn yr haf.

“Heb ymdrechion ar y cyd i leihau allyriadau carbon does dim amheuaeth bod tymereddau’r ddaear yn ei gwneud hi bron yn amhosibl, os nad yn gwbl amhosibl, i gynnal Gemau Olympaidd yr haf.”

Ychwanegodd fod gwres eithafol ynghyd â lleithder yn golygu bod y corff yn brwydro i oeri, a all arwain at straen gwres ar gyrff, pendro, blinder a strôc gwres.

Fe edrychodd yr ymchwilwyr hinsawdd ar sut mae tymheredd wedi newid ers cynnal y Gemau Olympaidd diwethaf ym Mharis a Ffrainc ganrif yn ôl ym 1924.

Fe ddaethon nhw o hyd i risg uwch o wres eithafol yn y Gemau ym Mharis eleni, gan nodi’r tywydd poeth yn Ffrainc yn 2003 – a laddodd fwy na 14,000 o bobl. 

Daw'r ymchwil ar ôl i Gemau Tokyo yn 2020 gael eu hadnabod fel y “poethaf mewn hanes”, gyda thymheredd yn uwch na 34C.

Mae'r adroddiad a gafodd ei gynhyrchu gan Gymdeithas Chwaraeon Cynaliadwy Prydain a FrontRunners yn gwneud pump argymhelliad i gefnogi ac amddiffyn athletwyr yn well rhag gwres eithafol.

Yn eu plith mae annog awdurdodau chwaraeon i gyflwyno gwell cynlluniau ar gyfer yfed dŵr ac adfer ar gyfer athletwyr.

Llun: Wochit

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.