Newyddion S4C

Syr Ian McKellen wedi ei gludo i'r ysbyty ar ôl disgyn oddi ar lwyfan theatr

18/06/2024
Syr Ian McKellen

Cafodd seren Lord Of The Rings, Syr Ian McKellen, ei gludo i'r ysbyty wedi iddo ddisgyn oddi ar lwyfan theatr yn Llundain nos Lun.

Roedd yr actor 85 oed yn smalio ymladd mewn golygfa pan gwympodd o'r llwyfan.

Mae'n chwarae rhan John Falstaff mewn cynhyrchiad o Player Kings yn Theatr Noël Coward ar hyn o bryd.

Roedd yn rhaid i'r perfformiad gael ei ohirio ac aeth Syr McKellen i'r ysbyty.

Dywedodd llefarydd ar ran y theatr ei fod mewn "hwyliau da" ac mae disgwyl iddo wella.

“Diolch i’n cynulleidfa a’r cyhoedd am eu dymuniadau da ar ôl i Ian gwympo yn ystod perfformiad heno o Player Kings,” meddai'r llefarydd wrth asiantaeth newyddion PA.

“Yn dilyn sgan, mae tîm gwych y Gwasanaeth Iechyd wedi ein sicrhau y bydd yn gwella’n gyflym ac mae Ian mewn hwyliau da.

“Mae’r cynhyrchiad wedi gwneud y penderfyniad i ganslo’r perfformiad ddydd Mawrth er mwyn i Ian gael gorffwys."

Roedd y datganiad hefyd yn diolch i’r meddygon Rachel a Lee a oedd “wrth law yn y gynulleidfa” ac i staff y theatr “am eu cefnogaeth”.

Mae disgwyl i'r actor ymddangos nesaf ym mherfformiad o'r cynhyrchiad brynhawn ddydd Mercher.

Llun: Wochit / Dave Benett

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.