Etholiad 2024: Y cyfle ola' i gofrestru i bleidleisio
Dydd Mawrth yw'r cyfle ola' i gofrestru i bleidleisio yn yr Etholiad Cyffredinol.
Mae gan bobl hyd at 23.59 ar 18 Mehefin er mwyn cofrestru i fwrw pleidlais yn yr etholiad ar 4 Gorffennaf.
Sut ydw i’n cofrestru i bleidleisio?
Mae modd cofrestru i bleidleisio ar-lein drwy wefan Llywodraeth y DU, neu fe allwch gofrestru drwy lenwi ffurflen bapur.
Mae ffurflenni papur ar gael i’w printio’n uniongyrchol oddi ar wefan Llywodraeth y DU, neu mae modd cysylltu â’r Swyddfa Cofrestru Etholiadol lleol er mwyn derbyn y ffurflen drwy’r post.
Bydd angen postio’r ffurflen bapur wedi’i gwblhau yn ôl i’ch Swyddfa Cofrestru Etholiadol lleol.
Ydw i’n gymwys i bleidleisio?
Yng Nghymru, mae pobl 14 oed a hŷn yn gallu cofrestru i bleidleisio, ond dim ond pobl 18 oed neu’n hŷn sy'n cael pleidleisio yn yr Etholiad Cyffredinol.
Rydych yn gymwys i gofrestru i bleidleisio yn yr Etholiad Cyffredinol os ydych yn:
- ddinesydd Prydeinig, Gwyddelig neu'n ddinesydd cymwys o'r Gymanwlad.
- byw mewn cyfeiriad yn y DU, neu'n byw dramor ac wedi cofrestru fel pleidleisiwr tramor.
- heb eich gwahardd yn gyfreithiol rhag pleidleisio.
Mae'n rhaid bod yn 18 oed neu’n hŷn er mwyn pleidleisio yn etholiadau’r Heddlu a Chomisiynydd yng Nghymru, ac yn 16 oed neu’n hŷn er mwyn pleidleisio mewn etholiadau cynghorau lleol ac etholiadau’r Senedd.
Beth sydd angen arna’i er mwyn pleidleisio?
Fel cam cyntaf, mae'n rhaid cofrestru i bleidleisio er mwyn gallu pleidleisio yn yr Etholiad Cyffredinol.
Ers mis Mai y llynedd, mae hefyd gofyn i bobl dod â thystiolaeth llun adnabod swyddogol i’r blychau pleidleisio.
Mae modd mynd â phasbort, trwydded gyrru, neu fathodyn glas i’r blychau pleidleisio.
Sut ydw i'n cael gafael ar ID cymwys?
Fe allai unrhyw un sydd heb ID llun cymwys gofrestru ar gyfer tystysgrif arbennig er mwyn pleidleisio ar wefan Llywodraeth y DU erbyn 17.00, 26 Mehefin.
Daeth y rheolau’r yma ar ID i rym fel rhan o Ddeddf Etholiadau 2022. Dywedodd Llywodraeth y DU fod y gyfraith newydd yn “angenrheidiol” er mwyn mynd i’r afael a thwyll wrth y blychau pleidleisio.