Taylor Swift: Faint o hwb fydd ei chyngerdd i economi Caerdydd?
Taylor Swift: Faint o hwb fydd ei chyngerdd i economi Caerdydd?
Wrth i filoedd o ‘Swifties’ edrych ymlaen at gyngerdd Taylor Swift yn y brifddinas nos Fawrth, faint o elw fydd yn dod i economi Caerdydd o ganlyniad i'w chyngerdd yn y brifddinas?
Yn ôl Dr Robert Bowen, darlithydd busnes o Brifysgol Caerdydd, “mae’n anodd dweud” faint o arian ychwanegol fydd yn dod i’r economi yn lleol.
“Ma’r amcangyfrif yn dangos efallai taw £64 miliwn falle bydd gwerth hynny i Gaerdydd, sydd yn swm allweddol,” meddai wrth siarad â rhaglen Newyddion S4C.
“O ran faint o arian ychwanegol yw hynny, mae’n anodd i ddweud, achos ma’ nifer o ffactorau yn perthyn i hynny,” ychwanegodd.
Roedd dadansoddiad gan fanc Barclays mis diwethaf wedi amcangyfrif y byddai taith y seren pop ar hyd a lled y DU yn golygu hwb o bron i £1 biliwn i’r economi ar lefel Brydeinig.
Ond mae rhai arbenigwyr wedi dweud na fyddai’r swm hwnnw yn “dwf gwirioneddol” i’r economi – hyd yn oed os mai dyna yw’r cyfanswm o arian fydd yn cael ei wario gan bobl sydd yn mynd i gyngherddau’r gantores y mis hwn.
Yn ôl Barclays, mae disgwyl i ffans wario £848 yr un er mwyn gweld Taylor Swift yn perfformio.
Roedd y ffigwr hwnnw yn seiliedig ar gostau cyfartalog o docynnau (£206), llety (£121), trafnidiaeth (£111), pryd o fwyd cyn y cyngerdd (£59), nwyddau swyddogol Taylor Swift (£79), diodydd a nwyddau answyddogol (£216), a gwisg arbennig ar gyfer y digwyddiad (£56).
Gyda disgwyl i 1.2 miliwn o gefnogwyr fynd i weld Taylor Swift yn perfformio yn y DU, dywedodd Barclays y byddai hyn yn golygu cyfanswm gwariant o £997 miliwn ar gyfartaledd.
Oes 'na elw gwirioneddol?
Ond yn ôl yr Athro Simon Shibli o Brifysgol Sheffield Hallam, ni fyddai’r gwariant yn golygu twf “go iawn” i’r economi.
Wrth siarad ar bodlediad More or Less: Behind the Stats y BBC, dywedodd y byddai’r arian sydd yn cael ei wario yn “cael ei wario beth bynnag.”
“Y gwir amdani yw y bydd y mwyafrif o’r bobl sy’n mynychu’r cyngherddau, sef yr 1 miliwn o wylwyr, yn dod o’r DU yn barod.
“Fe fydde nhw’n gwario arian sydd wedi deillio o’r DU o’u cyflogau eu hunain.
“Byddai’r bobl hynny yn gwario’r arian yna beth bynnag, pe bai ar bryd o fwyd, diodydd, penwythnos i ffwrdd, gwyliau, dillad, neu rywbeth arall – ac rydym yn galw hyn yn ‘dead weight.’
Ond ychwanegodd yr Athro Shibli y byddai’r gwariant hwnnw yn cael ei “ailddosbarthu” yn yr ardaloedd ble mae Taylor Swift yn perfformio ynddyn nhw.
“Bydd y lleoliadau sy’n cynnal cyngherddau yn elwa i raddau, ond fe fydd y gwariant yn ailddosbarthiad o arian a fyddai wedi cael ei wario beth bynnag.”
Mae Taylor Swift yn perfformio yn Stadiwm Principality nos Fawrth. Mae ganddi 15 o gyngherddau wedi’i threfnu yn y DU, gan gynnwys Caerdydd a Llundain – ac mae eisoes wedi perfformio yn Lerpwl a Chaeredin.
Dywedodd Dr Robert Bowen wrth Newyddion S4C: “Wrth gwrs, bydd ‘na pobol yn gwario yn lleol a bydd hynny yn golygu y bydd busnesau bach a busnesau lleol yng Nghaerdydd yn elwa wrth hynny.
“Felly ma’ hynny yn rhywbeth positif i Gaerdydd a’r ffaith bod Caerdydd yn un o’r lleoliadau ar y daith yn bwysig iawn.”
Llun: Wochit