Newyddion S4C

Arestio pedwar yn Sir Benfro ar ôl 'anhrefn' yn ymwneud ag arf

17/06/2024
Stryd Benfro

Mae pedwar o bobl wedi cael eu harestio yn Sir Benfro ar yn ôl digwyddiad yn ymwneud ag arf. 

Dywedodd Heddlu Dyfed Powys eu bod nhw wedi ymateb i adroddiadau am anhrefn, gan gynnwys unigolyn ag arf, ar Stryd Benfro, Doc Penfro am tua 16.50 ddydd Sadwrn, 15 Mehefin. 

Cafodd tri dyn 51 oed, 47 oed a 46 oed eu harestio, yn ogystal ag un menyw 37 oed.

Maen nhw bellach wedi cael eu rhyddhau ar fechnïaeth ac mae’r llu wedi dweud nad ydyn nhw’n chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â’r digwyddiad. 

Dywedodd Craig Templeton, uwch-arolygydd y llu yn Sir Benfro, ei fod yn deall bod y digwyddiad wedi achosi pryder ymhlith trigolion yr ardal.

“Hoffem ddiolch i aelodau’r cyhoedd am eu hamynedd a’u cefnogaeth yn ystod y digwyddiad hwn," meddai.

“Fe allwch chi ddisgwyl mwy o swyddogion yr heddlu yn yr ardal ac mi fyddan nhw ar gael i wrando ar unrhyw bryderon.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.