Newyddion S4C

'Fel unrhyw swydd arall': Angen 'amlygu' hawliau gweithwyr rhyw

Hansh 17/06/2024
Cyber Harlot

Mae gweithiwr rhyw o ogledd Cymru wedi dweud bod "angen dod â hawliau gweithwyr rhyw i’r amlwg".

Dywedodd Cyber Harlot, yr enw mae’n ei ddefnyddio ar gyfer ei gwaith fel gweithiwr rhyw wrth raglen Hansh, GRID, bod angen i'r swydd gael ei gweld fel unrhyw swydd gyffredin arall.

Mae hi’n creu cynnwys i oedolion ar-lein, ac mae hefyd yng nghanol cynnal gwaith ymchwil ar gyfer ei doethuriaeth.

“Mae bod yn weithiwr rhyw yn rhan fawr o’m hunaniaeth i, dwi’n cael fatha adrenaline rush pan dwi’n gweithio dwi’n meddwl," meddai.

“Mae wedi helpu fy hyder i lot.”

Mewn arolwg YouGov diweddar ymysg pobl 16-25 oed, dywedodd 36% eu bod yn credu y dylai gwaith rhyw gael ei weld fel swyddi eraill. 

“Ry’ch chi’n gallu cerdded lawr y stryd ac mae’n debygol eich bod chi’n mynd i gerdded heibio o leiaf un gweithiwr rhyw, oherwydd ry’n ni jyst fatha pawb arall" meddai Cyber Harlot.

“Y peth mwyaf efo bod yn weithiwr rhyw yng Nghymru ydy’r stigma, oherwydd ry’n ni’n wlad fwy hen ffasiwn. Ry’n ni lot yn fwy preifat pan mae’n dod i ryw. Dyw pobl ddim mor agored i siarad am y peth.”

'Dim yn deall'

Yn ôl Cyber Harlot, mae’r stigma’n gallu effeithio’n fawr ar fywydau nifer o bobl yn y diwydiant rhyw, ac yn troi mewn i'r hyn sydd yn cael ei alw'n ‘Whorephobia’. 

Whorephobia yw’r term sy’n cael ei ddefnyddio i ddisgrifio casineb a stigma tuag at waith rhyw o fewn cymdeithas. 

“Dwi’n meddwl bod yna elfen o whorephobia efo’n cleientiaid ni. So, dwi’n ei gael o weithiau pan maen nhw’n gofyn am rywbeth dydw i ddim yn ei wneud, ac fe wna’i ddweud wrthyn nhw ‘oh, well I don’t do that’, ac maen nhw’n dweud ‘oh, well you’re a dirty s**g anyway'.

“Mae rhai cleientiaid… dy’n nhw ddim yn deall petawn nhw ddim yna, fyddwn i ddim yna i wneud y gwaith - mae’n ateb y galw.”

Image
Cyber Harlot
Mae stigma tuag at waith gwerithwyr rhyw, meddai Cyber Harlot. Llun: GRID


Mae Cyber Harlot yn dweud gall "y stigma hyn droi mewn i drais" ar rai adegau. 

Yn ôl ymchwil gan Brifysgol Strathclyde a Phrifysgol Caerlŷr, mae 80% o weithwyr rhyw ar-lein wedi dioddef trosedd yn eu herbyn. 

Mae Cyber Harlot ymhlith y rhai sydd wedi profi hyn yn uniongyrchol gyda'i phrofiad o 'ddocsio'. 

Docsio, neu doxxing, yw’r broses lle mae rhywun yn rhannu manylion personol neu breifat rhywun arall ar-lein heb gydsyniad, fel arfer mewn modd bwriadol. 

“Pan mae docsio’n digwydd, mae’n ein rhoi mewn risg yn ein bywyd go iawn ni. Felly, yn sydyn, roedd fy enw iawn i ar y wê, roedd lle ro’n i’n byw.

“Rwyt ti’n teimlo fel dy fod di ddim yn saff yn dy gartref chdi dy hun, achos do’n i ddim yn gwybod… efallai fod rhywun wedi gweld fy ngwybodaeth i ar-lein ac wedi dod i chwilio amdanaf i neu rywbeth, a dwi’n meddwl mae hyn yn naturiol jyst yn lladd ar unrhyw berson os wyt ti o hyd yn gorfod gwatchad dy gefn.”

Nid dyna’r unig dro i Cyber Harlot deimlo ei bod hi mewn perygl - mae’r aflonyddu wedi digwydd ar raddfa fwy lleol hefyd. 

“Fe wnaeth y person yma lawrlwytho fy ngwaith i gyd a’u rhannu trwy WhatsApp efo llwyth o bobl lle dwi’n byw…Dwi’n meddwl doedd y person yma ddim yn licio ‘mod i’n gwneud hyn fel gwaith.

Image
Cyber Harlot
Mae Cyber Harlot wedi penderfynu selio ei doethuriaeth ar brofiadau myfyrwyr sy’n weithwyr rhyw a’r hyn all newid i’w cefnogi’n well. Llun: GRID


“Pan dwi’n postio fy ngwaith fy hun…dwi’n cydsynio i hynny’n llwyr. Ond pan mae rhywun arall yn cymryd fy ngwaith i, ac mae’n ei rannu fo efo pobl dydw i ddim cydsynio iddo gael ei rannu efo…wedyn mae hynny’n torri fy nghydsyniad.

“Wnes i ddim riportio achos does dim cyfreithiau yn gofalu am hynny. Dwi’n meddwl bod gan lot o weithwyr rhyw ofn, ‘os ‘nawn ni riportio rhywbeth, efallai wnawn ni gael ein trin fatha mai ni ydy’r broblem’.” 

'Diffyg cymorth'

Mae hyn wedi ychwanegu at gymhelliant Cyber Harlot i ymchwilio i sut all polisïau a chyfreithiau newid i amddiffyn pobl yn y gymuned, i’w cefnogi ac i roi’r hawliau iddyn nhw fel pobl eraill. 

Fel rhan o’i doethuriaeth, mae hi’n yn ymchwilio i brofiadau myfyrwyr sy’n weithwyr rhyw a’r hyn all newid i’w cefnogi’n well. 

Yn ei hymchwil, mae hi wedi darganfod bod llawer o fyfyrwyr sy’n weithwyr rhyw wedi profi aflonyddu. 

“Y tro cyntaf ces i fy owtio fel gweithiwr rhyw, dwi’n meddwl ro’n i ynghanol gwneud fy ngradd israddedig i… ond ro’n i jyst methu â chael y cymorth o wybod beth i’w wneud i siarad efo’r brifysgol tra bod hyn yn mynd ymlaen. Doedd dim cefnogaeth wedi’i theilwra i’n hanghenion ni.”

Trwy gydol y mwyafrif o gyfnod Cyber Harlot yn y brifysgol, mae hi hefyd wedi bod yn weithiwr rhyw. 

“Dweud ‘mod i’n mynd trwy brifysgol a dwi jyst angen sesiwn cwnsela neu dwi jyst angen cefnogaeth gan wasanaethau cefnogi myfyrwyr, dydw i ddim fel arfer yn sôn iddyn nhw fy mod i’n weithiwr rhyw, achos fel arfer maen nhw’n trïo trafod strategaethau ymwared efo chi, neu dy’n nhw ddim yn teimlo’n gyfforddus yn rhoi’r gefnogaeth yna. 

“Dydi o ddim yn fethiant ar y staff na ddim byd, mae o i gyd i wneud efo’r stigma yma a diffyg polisi yn y prifysgolion eu hunain a whorephobia sefydliadol.

“Mae’r ystadegau sydd gennym ni ar y funud yn dangos bod rhwng 2-4% o fyfyrwyr yn weithwyr rhyw. Ond, wrth siarad gydag arbenigwyr yn y maes ac ymchwilwyr eraill, maen nhw’n meddwl mai agosach at 8-10% o fyfyrwyr sy’n gwneud gwaith rhyw yn ystod rhyw adeg.

“Yn realistig, os oes o gwmpas 10% o fyfyrwyr yn gwneud y gwaith rhyw, mae hynny’n un ymhob 10. So, mae’n wirion does yna ddim polisi i fynd i’r afael â hyn.”

Mae modd gwylio'r rhaglen fan hyn.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.