Newyddion S4C

Dyn gydag 'anafiadau difrifol' yn dilyn ymosodiad gan gi yn Aberafan

17/06/2024

Dyn gydag 'anafiadau difrifol' yn dilyn ymosodiad gan gi yn Aberafan

Mae dyn 24 oed yn yr ysbyty gydag anafiadau difrifol yn dilyn digwyddiad yn ymwneud â chi yn Aberafan yng Nghastell-nedd Port Talbot.

Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu De Cymru bod swyddogion wedi cael eu galw i Blair Way yn Aberafan am 07:00 ddydd Llun.

Roedd adroddiadau ar gyfryngau cymdeithasol yn dangos heddlu arfog yn lleoliad y digwyddiad.

Roedd un ambiwlans ac ambiwlans awyr wedi cael eu galw i'r digwyddiad.

Cafodd y dyn 24 oed driniaeth yn yr ambiwlans awyr cyn cael ei gludo mewn ambiwlans i'r ysbyty gydag anafiadau difrifol.

Mae'r ci wedi cael ei symud o'r lleoliad gan uned gŵn yr Heddlu, meddai'r llu.

Dywedodd yr Arolygydd Jared Easton: “Mae teulu’r dyn a gafodd ei anafu, sy’n berchen ar y ci, wedi rhoi eu caniatâd i’r ci gael ei ddinistrio.”

Ymchwiliad

Dywedodd llefarydd ar ran Gwasanaethau Ambiwlans Cymru: “Cawsom ein galw heddiw am 7.14am i adroddiadau am ddigwyddiad yn Rhodfa Nobel, Port Talbot.

“Fe wnaethon ni anfon un ambiwlans brys i'r lleoliad.

“Cafodd cymorth gofal critigol uwch ei ddarparu gan y gwasanaeth adfer a throsglwyddo meddygol brys mewn hofrennydd elusen Ambiwlans Awyr Cymru.

“Aed ag un person i’r ysbyty.”

Mae ymchwiliad yr heddlu yn parhau.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.